English icon English
Wythnos gofalwyr

Wythnos Gofalwyr 2023 yn cydnabod gwaith hanfodol gofalwyr ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael

Carers Week 2023 recognises vital work of carers and highlights the support available

Bydd sefydliadau ledled Sir Benfro yn dathlu Wythnos Gofalwyr rhwng 5 ac 11 Mehefin.

Mae Wythnos Gofalwyr yn cael ei chynnal bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU.

Mae hefyd yn helpu pobl nad ydynt yn ystyried bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu i nodi eu bod yn ofalwyr a chael y cyfle i fanteisio ar gymorth.

Mae unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddwl neu gorfforol, caethiwed, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth iddyn nhw heneiddio yn ofalwr.

Gall effaith gofalu ar bob agwedd ar fywyd, o berthnasoedd ac iechyd i gyllid a gwaith fod yn sylweddol.

Er bod sawl un yn teimlo mai gofalu yw un o’r pethau pwysicaf maen nhw’n ei wneud, ni ddylai’r heriau gael eu bychanu.

Gall gofalu heb yr wybodaeth a’r gefnogaeth gywir fod yn anodd. Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n cydnabod y cyfraniad y mae gofalwyr yn ei wneud i’w teuluoedd a’u cymunedau lleol, eu gweithleoedd a’u cymdeithas, a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Bydd gofalu’n cyffwrdd â bywydau pob un ohonom ar ryw adeg, gan y bydd tri o bob pump o bobl yn dod yn ofalwyr.

Yn Sir Benfro mae gan fwy na 10% o’r boblogaeth gyfrifoldebau gofalu. Mae’r rôl y mae gofalwyr yn ei chwarae yn ein cymdeithas ni’n amhrisiadwy ac ni ddylid ei ddiystyru.

I gydnabod cyfraniad a gwerth gofalwyr, mae Wythnos Gofalwyr yn cael ei dathlu yn Sir Benfro gan amrywiaeth o sefydliadau.

Mae Adferiad Recovery (PCISS), Action for Children, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau am ddim ar gyfer gofalwyr ar draws y sir er enghraifft:

  • Digwyddiad i Ofalwyr ym Maenordy Scolton gyda thaith o amgylch yr ardd a’r tŷ
  • Chwiliwch am yr Hwb Cymunedol a’r Cysylltwyr yn Hwlffordd i gael gwybodaeth a chyngor am yr hyn sy’n digwydd yn y gymuned, yn ogystal â chymorth i fynd ar-lein
  • Bydd Gweithffyrdd + yn cynnig diod boeth a chacen am ddim i ofalwyr yn eu caffis
  • Te Prynhawn Gofalwyr yn Nhyddewi

Mae modd dod o hyd i fanylion am yr holl weithgareddau ar Cymorth i Ofalwyr Gorllewin Cymru neu drwy ffonio Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro (PCISS) ar 01437 611002.

Dywedodd y Cynghorydd Mike James, Hyrwyddwr Gofalwyr Cyngor Sir Penfro: "Wythnos Gofalwyr yw’r amser perffaith i ddiolch i ofalwyr yn Sir Benfro am y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud.

"Mae hefyd yn gyfle gwych i atgoffa bod cefnogaeth ar gael i ofalwyr yn lleol."

Os ydych chi’n cydnabod eich hun fel gofalwr, neu’n adnabod rhywun sy’n gwneud hynny, mae cymorth ar gael:

  • Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc sy’n cael ei ddarparu gan Action for Children – 01437 761 330
  • Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr Sir Benfro sy’n cael ei ddarparu gan Adferiad Recovery - 01437 611002 / PCISS@adferiad.org

Mae gweithgareddau hefyd yn digwydd ar draws Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar gyfer gofalwyr sy’n byw ger ffiniau’r sir. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy gysylltu â: