English icon English
Haverfordwest town centre wayfinding 1 and 2 August Haverhub

Y camau nesaf ar gyfer Dyfodol Hwlffordd

Next steps for the Future of Haverfordwest

Arwyddion canol y dref – rhannwch eich barn

Penwythnos diwethaf cynhaliodd Tîm Adfywio Cyngor Sir Penfro ddigwyddiad ymgysylltu llwyddiannus yn Haverhub lle daeth tua 200 o bobl i rannu eu barn ar ddatblygiadau presennol ac yn y dyfodol yn Hwlffordd. Cafwyd dros 130 o ymatebion i’r arolwg ar-lein hefyd ac mae amser o hyd i ddweud eich dweud - ewch i https://www.sir-benfro.gov.uk/dyfodolhwlffordd

Fel rhan o'r cynlluniau ehangach hyn, mae Cyngor Sir Penfro yn gwella arwyddion yng nghanol ein tref sirol, wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU. Yn ogystal ag arwyddion mwy traddodiadol, fel pyst cyfeirio, bydd y dyluniadau'n cynnwys arwyddion creadigol ledled y dref fel y gallwch ddod o hyd i'ch ffordd yn hawdd, darganfod lleoedd nad oeddech chi'n gwybod amdanynt o’r blaen, dysgu am ein treftadaeth gyfoethog a mwynhau treulio mwy o amser yn Hwlffordd.

Rydym yn gweithio gyda phenseiri tirlunio, arbenigwyr cyfeirio ac eraill ar ddyluniadau newydd ar gyfer Sgwâr y Castell, y Cyswllt â’r Castell ac arwyddion ledled y dref. Rydym yn cynnal digwyddiad ymgysylltu i gael adborth y cyhoedd ar dri syniad dylunio creadigol, sydd wedi'u cynhyrchu ar gyfer arwydd nodedig yng nghanol y dref. Bydd hwn yn arwyddbost allweddol i gynorthwyo llywio ledled Hwlffordd a bydd yn adrodd un neu fwy o straeon am dreftadaeth ein tref unigryw.

Bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal yn yr ystafell gornel yn Haverhub Ddydd Iau 1 Awst 3pm – 7 pm a dydd Gwener 2 Awst 10 am -5pm. Bydd yr arddangosfa yn rhoi cyfle i bobl Sir Benfro weld, sgorio a rhoi sylwadau ar y tri dyluniad hyn a deall sut maent yn cyd-fynd â'r cynlluniau sy'n datblygu yn gyffredinol. Bydd swyddogion Cyngor Sir Penfro ar gael i drafod y prosiect ac ateb eich cwestiynau. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd cyfleoedd pellach i ymgysylltu â gweddill y dyluniadau ar gyfer arwyddion, a syniadau ar gyfer Sgwâr y Castell a’r Cysylltiad â’r Castell, wrth iddynt ddod i'r amlwg.

Mae hwn yn ddigwyddiad personol. Os nad ydych yn gallu dod ond yn awyddus i fynegi eich barn, e-bostiwch futureofhaverfordwest@pembrokeshire.gov.uk a bydd copi o'r byrddau arddangos a'r arolwg yn cael eu hanfon atoch mewn neges e-bost. Rhaid dychwelyd yr arolwg erbyn 15 Awst er mwyn i'ch sgoriau gyfrif.

Bydd un o'r dyluniadau'n cael ei ddewis ym mis Awst, gan ddefnyddio cyfuniad o sgoriau o’r arolwg cyhoeddus a sgoriau panel arbenigol. Yna byddwn yn ymgysylltu ymhellach â'r gymuned leol i fireinio'r dyluniad a ffefrir yn ystod Medi a Hydref 2024, a'n nod yw cytuno ar ddyluniad terfynol a safle erbyn mis Tachwedd. Mae'r gwaith gosod wedi'i gynllunio ar gyfer diwedd gwanwyn 2025.