English icon English
Cloc gyda darnau arian a phlanhigion yn blaguro

Y cyfle diweddaraf i gael gafael ar gyllid grant cymunedol yn agor

Latest chance to access community grant funding opens

Mae Grant Cyfoethogi Sir Benfro ar agor ac mae croeso i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb.

Mae dros £4 miliwn o gyllid wedi'i ddosbarthu i ardaloedd lle mae effaith perchnogaeth ail gartrefi ar ei huchaf ers i Gyngor Sir Penfro sefydlu'r Grant Cyfoethogi Sir Benfro.

Wedi'i ariannu gan bremiwm treth gyngor ail gartrefi'r Cyngor, mae £700,000 ar gael yn 2024-2025 ar gyfer grwpiau a phrosiectau cymunedol bach a mawr ledled y sir.

Mae cyfanswm o £300,000 ar gael ar gyfer grantiau bach hyd at £15,000 ac mae £400,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer grantiau mawr hyd at £100,000. Caiff grantiau bach eu hasesu ar raglen dreigl drwy gydol y flwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb i'r cynllun grantiau mawr yw 14 Mehefin, ac mae angen ceisiadau llawn erbyn 12 Gorffennaf 2024.

Mae pwyslais ar yr amcanion llesiant gan gynnwys arfogi dysgwyr â sgiliau a gwybodaeth gydol oes ar gyfer y dyfodol; atal a sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel; mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng natur; prosiectau sy'n cefnogi cymunedau ac adeiladu lleoedd llesol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol i fyw ynddynt a gweithgarwch sy'n cefnogi'r Gymraeg o fewn cymunedau

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gellir ei ariannu a sut i wneud cais ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.

I gofrestru prosiect, gofyn am ffurflen mynegi diddordeb a chael cymorth anfonwch  e-bost i enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk.