English icon English
Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld a Cei'r De

Y Gweinidog Cyllid yn ymweld â’r Awdurdod Lleol a Hwlffordd

Finance Minister visits Local Authority and Haverfordwest

Bu Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, yn ymweld â Sir Benfro i weld amrywiaeth o’r gwaith y mae’r awdurdod yn ei wneud.

 

Fel rhan o’i hymweliad, dysgodd y Gweinidog fwy am y prosiectau ym Mhenfro a Doc Penfro – a cham cyflawni Teyrnas Ynni Aberdaugleddau sy’n cyd-fynd ag agenda ynni gwyrdd y Cyngor.

Roedd yn gyfle hefyd iddi weld y gwaith adfywio yn Hwlffordd sydd wedi elwa o fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Aeth y Gweinidog ar daith yng nghwmni uwch-arweinwyr ac Aelodau o amgylch Stryd y Bont, Glan-yr-afon a Glan Cei’r Gorllewin, lle y cafodd seremoni i osod y garreg gopa ei chynnal yr wythnos diwethaf.

Ar ôl taith o amgylch y dref, bu’r Gweinidog yn siarad ag uwch-arweinwyr Tai, Seilwaith a Chynllunio, ac yn clywed am y llwyddiannau a’r heriau a wynebir.

Yn eu plith roedd y rhaglen datblygu tai weithredol a chyllid grant ychwanegol ar gyfer tai, lle mae’r heriau’n cynnwys argaeledd, cynnydd mewn digartrefedd a phwysau o ran fforddiadwyedd.

Mae mentrau Teithio Llesol yn profi’n llwyddiannus yn Sir Benfro, ac mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Hwlffordd wedi sicrhau arian, ond mae heriau o hyd o ran gwella cysylltedd â’r tu allan i’r Sir yn ogystal ag addasu i effeithiau newid hinsawdd mewn ardaloedd fel Niwgwl. 

Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd y Cyngor: “Roeddwn i’n falch iawn o groesawu’r Gweinidog Rebecca Evans i Hwlffordd i weld y prosiectau adfywio sy’n helpu i drawsnewid y dref.

“Fe ymwelodd hi â datblygiad Glan Cei’r Gorllewin, sy’n rhan o fuddsoddiad gwerth £60m yn Hwlffordd, sy’n cynnwys £26m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

“Roedd y Gweinidog wedi’i phlesio â’r gwaith a gallai weld sut y bydd y prosiectau hyn yn ychwanegu at hanes a diwylliant cyfoethog y dref – gan sicrhau y bydd yn parhau i fod yn lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld â hi.

“Bydd y prosiect hwn yn creu gofod newydd bywiog y gall busnesau lleol a thrigolion ei fwynhau – ac yn helpu busnesau yn Sir Benfro i ffynnu.”

 

Ychwanegodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru:

"Mae hi bob amser yn bleser gweld yn bersonol sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn newid ac yn gwella ein trefi, ein hardaloedd lleol a'u cyfleusterau, yn enwedig mewn ffordd sydd â meddylfryd amgylcheddol, ond eto'n dal i adlewyrchu eu hanes a'u diwylliant.

"Mae gweithio mewn partneriaeth yn rhan annatod o adfywio, ac mae datblygiadau Glan Cei’r Gorllewin a Glan yr Afon Cyngor Sir Penfro yn enghreifftiau gwych o hyn ac yn helpu i greu cyfleoedd i lawer, nawr ac ar gyfer y dyfodol."

Diwedd