English icon English
cymorth digidol

Y Tîm Cymorth Cymunedol Digidol – yma i helpu

The Digital Community Support team – here to help

Ydych chi, neu ffrind neu aelod o'r teulu, angen cymorth gyda thechnoleg ddigidol?

Hoffech chi wybod sut i ddefnyddio ffôn clyfar, llechen, Alexa, neu ddyfais ddigidol arall?

Mae tîm cymorth cymunedol digidol Cyngor Sir Penfro yn eich annog i gysylltu â nhw os hoffech chi gael help, wrth i Wythnos Ewch Ar-lein agosáu (16-22 Hydref).

Dywedodd Matthew Wall o'r tîm: "Rydyn ni yma i helpu unrhyw un sydd eisiau mynd i'r afael â thechnoleg ddigidol, ac sy'n ansicr ynghylch ble i ddechrau."

Mae'r tîm hefyd yn rhoi cyngor ar sut y gall technoleg ddigidol eich cefnogi yn eich cartref - ac yn darparu dyfeisiau ar fenthyg.

Darperir y cymorth canlynol:

  • Cefnogaeth un i un i feithrin eich sgiliau a'ch hyder
  • Help i gael mynediad at offer digidol a chysylltedd
  • Gwybodaeth am ba weithgareddau a hyfforddiant ar-lein sydd ar gael
  • Sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb yn lleol
  • Help i grwpiau sydd am gael mynediad at offer digidol

Dywedodd Matthew eu bod nhw wedi helpu David, sy’n ddyn hŷn ym Mhenfro, yn ddiweddar. Roedd ef eisiau cadw mewn cysylltiad â'i wraig gan nad oedd hi'n gallu symud o gwmpas eu cartref oherwydd salwch.

"Yn gyntaf, fe wnaethon ni roi benthyg Echo Dot iddo i gyfathrebu â'i wraig tra roedd yn piltran o gwmpas y tŷ ac yn yr ardd," meddai.

"Ar ôl defnyddio'r ddyfais, penderfynodd ef brynu cloch drws fideo er mwyn caniatáu iddo siarad ag ymwelwyr ac egluro y gallai fod ychydig yn hirach yn ateb y drws.

"Er mwyn cefnogi hynny, fe wnaethon ni roi benthyg Echo Show iddo a fyddai'n caniatáu iddo weld cloch y drws fideo o'r gegin ar sgrin fwy na'i ffôn.

"Roedd hefyd yn caniatáu iddo gyfathrebu â phwy bynnag oedd wrth y drws.

"Dyma un o'r enghreifftiau o'r nifer o ffyrdd y gallwn helpu pobl yn Sir Benfro. Cysylltwch â ni os hoffech unrhyw gyngor neu gefnogaeth."

Bydd y tîm cymorth cymunedol digidol yn cynnal sesiwn wybodaeth galw heibio gyda PAVS yn Llyfrgell Glanyrafon yn Hwlffordd ddydd Llun (16 Hydref) rhwng 10am a 3pm.

"Galwch heibio, gofynnwch gwestiynau, a cheisiwch gefnogaeth i fynd ar-lein," meddai Matthew. "Mae data am ddim hefyd drwy fanc data ar gyfer y rheiny sy'n bodloni'r meini prawf."

Mae'r tîm cymorth cymunedol digidol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gefnogaeth, ffoniwch 01437 764551 a gofynnwch am Gymorth Cymunedol Digidol neu anfonwch neges e-bost at matthew.wall@pembrokeshire.gov.uk