Pension credit support / cymorth credyd Pensiwn

Ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn colli allan ar Gredyd Pensiwn?

Are you or someone you know missing out on Pension Credit?

Rhannu:

Mae Credyd Pensiwn werth £3,900 y flwyddyn ar gyfartaledd ac mae'n datgloi cymorth ychwanegol gan gynnwys Taliadau Tanwydd y Gaeaf, cymorth gyda'r Dreth Gyngor, gofal deintyddol a sbectol y GIG ac i bobl dros 75 oed, trwydded deledu am ddim. 

Gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn hyd at dri mis ar yr amod bod hawl yn ystod y cyfnod hwnnw.  Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd angen i chi ofyn i'ch cais gael ei ôl-ddyddio.

I wybod a ydych yn gymwys, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn yn www.gov.uk/pension-credit/eligibility.  Gallwch hefyd wneud cais drwy ffonio: 0800 99 1234, mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm.  Cyn i chi wneud cais, dylech fod â’ch rhif yswiriant gwladol chi ac unrhyw bartner, a manylion yr holl incwm a chynilon. 

Rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd y Gaeaf 2024 - 2025.