English icon English
Darlun lliwgar o'r dref ddychmygol

Ymgynghoriad pellach ar gam nesaf y cynllun sy’n goruchwylio datblygiad yn Sir Benfro

Further consultation on next stage in plan overseeing development in Pembrokeshire

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd, gwnaed “newidiadau â ffocws” i’r canllawiau trosfwaol ar gyfer datblygiadau cynllunio yn Sir Benfro hyd at 2033.

Mae Cynllun Datblygu Lleol 2 (CDLl2) a dogfennau ategol, gan gynnwys yr Adroddiad Asesu Cynaliadwyedd, y Cytundeb Cyflawni, a’r Adroddiad Ymgynghori, wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w harchwilio.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar fersiwn Cynllun Adneuo 2 o Gynllun Datblygu Lleol 2, sy’n cwmpasu pob ardal heblaw am y parc cenedlaethol, yn hydref 2024.

Mewn ymateb i sylwadau a ddaeth i law, gwneir ‘newidiadau â ffocws’ i sicrhau bod y cynllun yn gadarn cyn iddo gael ei archwilio gan arolygydd annibynnol a benodir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y newidiadau â ffocws hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol chwe wythnos o hyd rhwng dydd Llun, 4 Awst a hanner nos ddydd Llun, 15 Medi cyn yr archwiliad.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i wneud sylwadau i gefnogi neu wrthwynebu’r newidiadau penodol hyn yn unig. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hanfon ymlaen yn uniongyrchol at yr arolygydd cynllunio.

Mae amserlen y newidiadau â ffocws a’r dogfennau cyflwyno ar gael yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/adolygur-cynllun-datblygu-lleol/newidiadau-canolbwynteidig a https://www.sir-benfro.gov.uk/adolygur-cynllun-datblygu-lleol/cyflwyno

Copi papur o'r dogfennau ymgynghori hefyd ar gael yn Neuadd y Sir, Hwlffordd ac mewn llyfrgelloedd lleol yn ystod oriau agor arferol.

Rhaid i unrhyw sylwadau ar gam hwn y broses o baratoi’r cynllun ymwneud â’r newidiadau â ffocws ac ni ddylent gynnig newidiadau pellach i’r cynllun.

Nid oes angen ailgyflwyno sylwadau a wnaed ynghylch y Cynllun Adneuo. Bydd yr holl sylwadau am y cynllun ar gael i’r cyhoedd eu gweld.

Bydd arolygydd cynllunio annibynnol yn cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad cyhoeddus i benderfynu a yw’r cynllun yn gadarn. Rhoddir rhybudd o leiaf chwech wythnos cyn cychwyn yr archwiliad.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Thîm Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro.