English icon English
Enillwyr Gwobrau Sbotolau gyda Bethany a Nadine o'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc

Pobl ifanc yn disgleirio yng Ngwobrau Spotlight Sir Benfro eleni

Young people shine at this year’s Pembrokeshire Spotlight Awards

Cynhaliwyd trydedd seremoni Gwobrau Spotlight Sir Benfro yn ddiweddar i ddathlu plant a phobl ifanc sy’n cyflawni pethau eithriadol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cynhaliwyd Y Gwobrau, sef menter gydweithredol rhwng y sector Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, ar 17 Tachwedd yn Theatr Myrddin, Coleg Sir Benfro, ac roedd yn dathlu cyflawniadau pobl ifanc Sir Benfro.

Diolch o waelod calon i’r bobl ifanc o Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau a gymerodd ran yn y broses gyfan, o’r syniad, i’r cynllunio, i gymryd rhan ar noson y gwobrau.

Roedd hwn wir yn ddigwyddiad ‘I Bobl Ifanc, Gan Bobl Ifanc.’ 

Diolch hefyd i BAM Nuttall am noddi’r gwobrau eleni. Yn anffodus, nid oeddent yn gallu mynychu’r digwyddiad, ond wedi dweud ei fod wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r gwobrau, a hoffent gyfleu eu gwerthfawrogiad i bawb.

Spotlight1

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Thomas Tudor: “Roedd yn anrhydedd cyflwyno’r gwobrau, gyda ffrindiau a chydweithwyr, ar gyfer Gwobrau Spotlight 2023 yng Ngholeg Sir Benfro.

“Mae’r gwobrau’n dathlu plant a phobl ifanc sy’n cyflawni pethau eithriadol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymdeithas. Cyflwynais y Wobr Codi Arian, sy’n cael ei rhoi i berson ifanc sydd wedi dangos ymroddiad ac wedi gwneud ymdrech arbennig i godi arian ar gyfer achos gwych. Llongyfarchiadau i Esme Morgan, yr enillydd, ac i Sophie Howell a Caiden Meacham, yr ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer.”

Ar ôl y seremoni wobrau, cafwyd lluniaeth ac adloniant, yn cynnwys efelychwr syrffio, cwrs ymosod meddal, dewin, bwth lluniau, yn ogystal â chandi-fflos a phopgorn yng nghyntedd y coleg.

Cafodd cyflawniadau anhygoel eu nodi a’u dathlu yn y digwyddiad, a dyma oedd yr enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail:

 

Spotlight 3

Stori fwyaf ysbrydoledig: Thomas O’Leary (enillydd), Casey Arnold a Joe Zugasti (ail)

Gwneud gwahaniaeth yn y gymuned: Lily Ramsey (enillydd), Futureworks Twf Swyddi Cymru Plws, Canolfan Aberdaugleddau a Chlwb Ar ôl yr Ysgol Canolfan Ieuenctid Aberdaugleddau (ail)

Cyflawni newid cadarnhaol: SAT (Tîm Gweithredu Cymdeithasol) Ysgol Greenhill (enillydd), Danna Sleman, Elisha Newton, Jesse Ormond a Judah Brookes a Michaela Hodgson (ail)

Gwobr Arweinydd Ifanc / Mentora Cyfoedion: Leon John (enillydd), Helin Mohammed a Phrosiect Urddas Mislif Hwlffordd (ail)

Gwobr Cerddoriaeth: Eliza Bradbury (enillydd), Erin Morgan (ail)

Gwobr Chwaraeon: Bleddyn Gibbs (enillydd), Hyb Rygbi Merched dan 14 oed South Pembs Sharks ac Imogen Scourfield (ail)

Gwobr Addysg: Toby Haynes (enillydd), Bethan Walters (ail)

Gwobr Pencampwr Eco: Megan Absalom-Lowe (enillydd), Thrift Project (ail)

Gwobr Llais: Riley Barn (enillydd), Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro (ail)

Gwobr y Celfyddydau: Amy Miles (enillydd), William Screen a Phrosiect Celf Let Your Voice Be Seen and Heard (ail)

Gwobr Codi Arian: Esme Morgan (enillydd), Sophie Howell a Caiden Meacham (ail)

Gwobr olaf y noson oedd ‘Gwobr Arbennig Spotlight’, a roddir i un person ifanc am gyfraniad neu gyflawniad hynod bwysig. Ar gyfer 2023, rhoddwyd y wobr hon i Leon John. 

Soniwyd yn arbennig am John Russell a Darian Smith am eu cyflawniadau.

Hefyd, ar ddiwedd y seremoni, arhosodd y rheiny a oedd yn bresennol yn dawel am funud i gofio am berson ifanc a oedd, yn anffodus, wedi marw.

Diolch yn arbennig hefyd i’r rheiny a fynychodd y digwyddiad i gyflwyno’r gwobrau i’r bobl ifanc, yn ogystal â’r rheiny a gymerodd yr amser i enwebu person ifanc / grŵp; Charlie Royal, Josh a gweddill y tîm yng Ngholeg Sir Benfro am gynnal y digwyddiad hwn; Nadine Farmer, Bethany Roberts, Nicky Edwards ac Angie Moore am eu cymorth yn trefnu’r digwyddiad hwn ac i’r bobl ifanc o Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau am eu gwaith caled.

I weld mwy o luniau o’r noson, ewch i: https://www.facebook.com/PembsCYPRO