English icon English
The BIC Christmas party raising money for the Catrin Vaughan Foundation and Samaritans.

Ysbryd yr ŵyl wrth i ganolfan fusnes a menter gefnogi elusennau lleol

Festive spirit at business and enterprise centre supports local charities

Wrth iddynt fynd i ysbryd yr ŵyl gyda charolau a chystadlaethau yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro, ddydd Gwener diwethaf (13 Rhagfyr), gwnaeth y staff a’r tenantiaid gefnogi dwy elusen bwysig.

Rhoddodd busnesau lleol wobrau hael a bu disgyblion Ysgol Bro Penfro yn canu carolau yn y digwyddiad, a gododd arian ar gyfer elusen cymorth emosiynol, y Samariaid, a Sefydliad Catrin Vaughan, sy'n gweithio gydag ysgolion ac unigolion i helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Beth Morgan o Sefydliad Catrin Vaughan: "Rydym yn falch iawn o fod yn bresennol heddiw, mae hyn yn golygu llawer iawn i ni fel teulu ac fel sefydliad."

“Byddai Catrin wedi bod yn hynod falch ein bod wedi gallu parhau i ddarparu cefnogaeth i blant. Mae'n arbennig iawn gallu parhau i wneud hynny yn ei henw hi."

Mae'r sefydliad yn cefnogi plant ledled Sir Benfro drwy helpu i ddarparu cyfleusterau ac offer arbenigol fel ystafelloedd synhwyraidd a mannau awyr agored. Am fwy o wybodaeth ewch i'w tudalen Facebook neu Sefydliad Catrin Vaughan – Helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Dywedodd Christine Gwyther, Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Samariaid: "Mae bob amser yn hyfryd dod i ddigwyddiad fel hwn lle mae pobl yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd.

“Fel person lleol, rwy’n falch iawn o weld y ganolfan arloesi yn llawn bwrlwm ac yn ffynnu. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weld pobl ifanc yn dod i ganu gyda ni, oherwydd rwy'n credu ei bod yn dda iddynt gael blas ar sut olwg fyddai ar yrfa fusnes ac mae cael y math hwnnw o ddyhead yn ein trefi lleol yn beth da iawn, iawn.”

Ychwanegodd Is-gyfarwyddwr Samariaid Sir Benfro, Sue Oldreive: "Mae bod yn Samariad yn hynod ddiddorol. Siarad a gwrando ar bobl yw'r peth pwysicaf. Gall unrhyw un ein ffonio 365 diwrnod y flwyddyn, unrhyw bryd a bydd yr alwad yn cael ei hateb. Mae'r alwad yn rhad ac am ddim, 116123, neu e-bost jo@samaritans.org.  Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni.”

Codwyd bron i £180 i'r elusennau yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Peter Lord, Prif Swyddog Datblygu Busnes CSP: "Mae'n wych cefnogi tenantiaid Canolfan Arloesi'r Bont i gynnal digwyddiad elusennol fel hyn fel rhan o'n dathliadau Nadolig."

Dywedodd John Likeman, tenant Canolfan Arloesedd y Bont o Raven Technologies, a helpodd i drefnu'r dathliadau: "Diolch i bawb a helpodd i drefnu'r digwyddiad hwn, ac i'r bobl a ddaeth i'w gefnogi.

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, mae'n lle gwych, yn gyfeillgar iawn ac mae pawb bob amser yn gefnogol iawn ac yn edrych ar ôl ei gilydd.

“Mae'n wych gallu rhannu hynny gyda'r gymuned ehangach heddiw."

Ychwanegodd Pennaeth Gweithredol Ysgol Bro Penfro, Dafydd Hughes: "Mae'n wych i'r plant ddod i Ganolfan Arloesi'r Bont a chael profiad gwahanol a gweld y cyfleoedd gyrfa fydd ar gael iddyn nhw."

Llun: Ymunodd y Samariaid a Sefydliad Catrin Vaughan â thenantiaid a staff Canolfan Arloesedd y Bont