Ysgol Aberdaugleddau: Gweithio gyda'n gilydd i wneud gwelliannau ar gyfer dysgwyr
Milford Haven School: Working together to make improvements for learners
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod canlyniad arolygiad diweddar Ysgol Aberdaugleddau gan Estyn, yn derbyn yr adroddiad, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau gwelliannau yn yr ysgol.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r argymhellion ac ysgogi gwelliant cyflym. Rydym wedi croesawu ymweliadau gan Estyn i weithio ar y cynllun gweithredu drafft ac mae'r gwaith hwn ar y gweill. Mae ein timau'n gweithio gyda'r ysgol i sicrhau bod y cymorth angenrheidiol yn cael ei ddarparu.
Mae'r Cyngor yn hyderus y gellir gwneud y gwelliannau angenrheidiol yn gyflym ac yn effeithiol, ac mae’n edrych ymlaen at ddangos y cynnydd hwn i Estyn yn ystod eu hymweliadau monitro.
Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cefnogi’r tîm arweinyddiaeth a chorff llywodraethu'r ysgol gyda her briodol i sicrhau bod ganddynt y capasiti a'r gefnogaeth gywir. Bydd hefyd yn cadw’r pwyslais yn glir ar sicrhau gwelliant parhaus mewn canlyniadau ar gyfer disgyblion.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: "Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pob dysgwr yn yr ysgol yn cael addysg o ansawdd uchel a chynnal lles pob dysgwr.
Er gwaethaf yr heriau a nodwyd, fe wnaeth Estyn gydnabod nifer o gryfderau pwysig yn Ysgol Aberdaugleddau, gan gynnwys:
- Y gymuned ofalgar a chynhwysol y mae'n ei darparu
- Y cwricwlwm eang a chytbwys sy'n cael ei gynnig gan yr ysgol
- Yr ystod o gyfleoedd sgiliau ehangach a digidol a gynigir ar draws y cwricwlwm
- Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a ddarperir gan arweinwyr yn yr ysgol
Mae'r cryfderau hyn yn darparu sail ar gyfer gwelliant yn y dyfodol ac yn dangos ymrwymiad yr ysgol a'r cyngor i sicrhau llwyddiant dysgwyr yn y dyfodol.
Bydd yr ysgol yn parhau i roi gwybodaeth i rieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach trwy ddiweddariadau rheolaidd a digwyddiadau ymgysylltu.
Bydd rhagor o fanylion am y cynllun gweithredu yn dilyn yr arolygiad yn cael eu cyhoeddi ar wefan Ysgol Aberdaugleddau ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Estyn.