Ysgol Aberdaugleddau y gyntaf i ennill gwobr aur mewn cynllun gofalwyr
Milford Haven School first to achieve gold in carer’s scheme
Mae Ysgol Aberdaugleddau wedi eu cydnabod am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i ofalwyr ifanc a hi yw'r ysgol gyntaf i ennill y wobr lefel uchaf.
Mae'r ysgol wedi ennill y wobr Lefel Aur Buddsoddwyr mewn Gofalwyr am ei gwaith ar gyfer dysgwyr a staff sy'n ofalwyr.
Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn cael ei gefnogi gan awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Bwriad y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yw helpu sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a sefydliadau eraill i ganolbwyntio ar eu hymwybyddiaeth o ofalwyr a gwella'r cymorth.
Mae'r cynllun hwn bellach wedi ymestyn i lawer o dimau, gwasanaethau a sefydliadau eraill. Mae'n gynllun sy'n darparu sylfaen ar gyfer helpu i nodi a chefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed.
Aseswyd Ysgol Aberdaugleddau yn erbyn y chwe thema o fewn y cynllun: Arweinydd Gofalwyr, Hyfforddiant staff, Nodi, Gwybodaeth a Chefnogaeth i Ofalwyr a Gwerthuso.
Dywedodd Janette Reynolds, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol: "Mae'n anrhydedd mawr i ni dderbyn Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, mae'n dyst i'n hymrwymiad i gefnogi a chydnabod cyfraniadau amhrisiadwy gofalwyr yn ein cymuned. Roedd yn ymwneud â datblygu diwylliant sy'n parchu, grymuso ac eirioli dros les gofalwyr yn Ysgol Aberdaugleddau.
“Byddwn yn parhau i ymdrechu tuag at ddarparu'r cymorth gorau posibl, gan sicrhau bod gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu cydbwyso eu cyfrifoldebau."
Dywedodd Hyrwyddwr Gofalwyr Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Mike James: "Mae hyn yn newyddion hollol wych. Dylai pawb yn Ysgol Aberdaugleddau fod yn hynod falch o'u gwaith caled a'u hymrwymiad sydd wedi eu harwain at ddod yr ysgol gyntaf yn Sir Benfro i dderbyn y wobr aur Buddsoddwyr mewn Gofalwyr.
“Mae'r wobr yn cydnabod yr ymwybyddiaeth a'r gefnogaeth i ofalwyr a ddarperir gan yr ysgol ac mae hyn i'w ganmol."
Gofalwr yw rhywun, o unrhyw oedran, sy'n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau na allent ymdopi heb yr help hwn. Gallai hyn gynnwys gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sy’n camddefnyddio sylweddau. Gall unrhyw un ddod yn ofalwr; yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw dod yn ofalwr yn ddewis, mae ond yn digwydd.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr neu am gyngor defnyddiol i ofalwyr, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gwybodaeth-i-ofalwyr/