Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn agor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf
Ysgol Gymraeg Bro Penfro opens its doors to pupils for the first time
Ar ôl cwblhau a throsglwyddo'r ysgol newydd yn llwyddiannus, agorodd Ysgol Bro Penfro ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf ar ddydd Iau 5ed Medi.
Mae'r ysgol yn cynrychioli pennod newydd gyffrous yn hanes addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro a bydd yn gwasanaethu fel ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer de orllewin Sir Benfro gyfan.
Ariannwyd prosiect adeiladu Ysgol Gymraeg Bro Penfro gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a Chyngor Sir Penfro, a bydd yn darparu gofal diwrnod llawn ar gyfer hyd at 36 o blant 0-11 oed, meithrinfa sydd yn cynnwys lle i 30, a lle i hyd at 210 o ddisgyblion (Derbyn i Flwyddyn 6).
Mae'r ysgol yn cynrychioli prosiect nodedig, nid yn unig am ei statws fel ysgol cyfrwng Cymraeg, ond hefyd oherwydd mai hon yw’r ysgol gyntaf yn Sir Benfro i’w chwblhau i fodloni gofynion llym Carbon Sero Net. Adeiladwyd yr ysgol gan Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd, gyda thua 21% o'r holl is-gontractau yn cael eu dyfarnu i gwmnïau o Sir Benfro.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn o weld Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn agor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf. Mae'r ysgol newydd hon yn dyst i'n hymrwymiad i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel a chreu amgylcheddau dysgu cynaliadwy o'r radd flaenaf.
"Mae'r buddsoddiad yn y prosiect hwn nid yn unig yn cefnogi anghenion addysgol ein plant ond hefyd yn atgyfnerthu ein hymroddiad i gyfrifoldeb amgylcheddol. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd yr ysgol hon yn ei chael ar ein cymuned a chenedlaethau'r dyfodol Sir Benfro."
Dywedodd Pennaeth Gweithredol yr ysgol, Dafydd Hughes, ei fod yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i groesawu disgyblion i'r ysgol newydd.
"Mae'n braf bod bron i 140 o blant wedi dod trwy ddrysau'r cyfleuster newydd gwych hwn ac rwy'n sicr y gallwn ddatblygu ysgol lwyddiannus a fydd yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion ffynnu mewn cyd-destun Cymreig. Bydd y ffocws ar arloesi a rhagori ym mhob agwedd o’r gwaith dyddiol boed wrth gefnogi disgyblion o safbwynt eu helpu i wneud cynnydd yn academaidd neu o safbwynt cefnogi eu lles. Rydw i’n benderfynol bydd disgyblion Ysgol Bro Penfro yn falch o’u dwyieithrwydd, eu treftadaeth, eu cynefin a’u hysgol.”
Dywedodd dau Bencampwr y Cyngor dros y Gymraeg, y Cynghorydd Delme Harries a'r Cynghorydd Aled Thomas eu bod yn falch iawn o agor yr ysgol newydd.
"Rydym wrth ein bodd bod Ysgol Bro Penfro wedi agor a bod y Cyngor wedi buddsoddi mewn ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i wasanaethu ardal Penfro a’r cyffiniau. Bydd y buddsoddiad hwn, a phenderfyniad Cabinet Cyngor Sir Benfro i ehangu dalgylch yr ysgol, yn galluogi'r ehangu ymhellach, a mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir."