Ysgol Gymraeg yn cael ei chydnabod am ei 'chymuned hapus, balch a chyfeillgar'
Welsh-language school recognised for its ‘happy, proud and friendly community’
Mae adroddiad diweddar gan Estyn wedi hyrwyddo'r gymuned yn Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych.
Canfu arolygwyr fod disgyblion yn datblygu balchder yn eu hardal leol, yn ffynnu yn eu dysgu a'u datblygiad cymdeithasol ac yn barod ar gyfer camau nesaf eu dysgu.
Mae Ysgol Bro Preseli yn ysgol gydol oes gyda 932 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, gan gynnwys 118 yn y chweched dosbarth.
Canfu adroddiad Estyn fod gan y rhan fwyaf o ddisgyblion Ysgol Bro Preseli agweddau hynod gadarnhaol tuag at ddysgu ac maent yn trin staff gyda pharch ac yn gwrando'n ofalus ar gyfraniadau eu cyd-ddisgyblion.
Ychwanega'r adroddiad, mewn bron pob achos, bod athrawon yn dangos gwybodaeth dda am y pwnc a nodwedd ardderchog yw'r ffordd y mae athrawon yn datblygu perthynas waith agos a chefnogol gyda disgyblion yn ogystal â meithrin amgylchedd diogel lle nad oes ofn gwneud camgymeriadau
Mae'n nodi: "O ganlyniad i gyfeiriad strategol clir a chynllunio manwl, mae athrawon yn darparu gweithgareddau ymarferol buddiol sy'n caniatáu i ddisgyblion ddatblygu sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu pwrpasol mewn sesiynau iaith ac ar draws y meysydd eraill o ddysgu a phrofiad.”
Mae Estyn yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Ysgol Bro Preseli weledigaeth glir ar gyfer ei chwricwlwm sy'n seiliedig ar arwyddair yr ysgol, 'Gwreiddiau a Gorwelion'.
“Mae arweinwyr ac athrawon yn darparu cwricwlwm cydlynol a phrofiadau dysgu sy'n pontio'r sectorau cynradd ac uwchradd yn effeithiol. Mae arweinwyr a staff yn cynllunio gweithgareddau a phrofiadau ysgogol i ddisgyblion ddysgu a dyfnhau eu dealltwriaeth o fewn y meysydd dysgu a phrofiad. Mae hyn yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr ymdeimlad o berthyn sy'n treiddio i gwricwlwm cyfan Ysgol Bro Preseli," ychwanega'r adroddiad.
Dywedodd y Pennaeth Rhonwen Morris: "Fel ysgol gydol oes cyfrwng Cymraeg lwyddiannus, rydym wrth ein bodd bod yr adroddiad yn cydnabod ein hymrwymiad i ragoriaeth a'r hunaniaeth unigryw sy'n gwneud Ysgol Bro Preseli mor arbennig. Ers dod yn ysgol gydol oes yn 2022, mae ein tîm arweinyddiaeth newydd cydlynol a'n corff llywodraethu wedi canolbwyntio ar adeiladu sylfaen gadarn yn seiliedig ar ein gwerthoedd o Garedigrwydd, Cymuned, Chyfrifoldeb ac Ethos Gymreig.
“Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at waith strategol rhagorol staff ar bob lefel, sy'n dyst i'r ymroddiad a'r weledigaeth ar y cyd sy'n cymell ein hysgol.
“Mae'n braf bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni o ddydd i ddydd. Mae'r cyflawniad hwn yn perthyn i'n cymuned gyfan: staff, disgyblion, rhieni, a llywodraethwyr. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i ategu’r llwyddiant hwn ac yn darparu'r addysg orau i bob disgybl.”