
Ysgol Gymunedol Pennar yn cipio gwobr Ysgolion Rhyngwladol y British Council
British Council International School Award success for Pennar Community School
Mae Ysgol Gymunedol Pennar wedi ennill lefel sylfaen Gwobr Ysgolion Rhyngwladol fawreddog y British Council i gydnabod ei gwaith i ddod â'r byd i'r ystafell ddosbarth.
Mae’r Wobr Ysgolion Rhyngwladol yn dathlu cyflawniadau ysgolion sy'n gwneud gwaith eithriadol mewn addysg ryngwladol.
Mae meithrin dimensiwn rhyngwladol yn y cwricwlwm wrth wraidd gwaith y British Council gydag ysgolion, a’r nod yw bod pobl ifanc yn magu’r ddealltwriaeth ddiwylliannol a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw a gweithio yn y byd heddiw.
Mae gwaith rhyngwladol Ysgol Gymunedol Pennar yn rhoi profiad dysgu cyfoethog i blant sydd y tu hwnt i'w hystafell ddosbarth a'u cymuned leol.
Yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, bu disgyblion blwyddyn 5 yn ymweld â Sanguinet yn Ffrainc fel rhan o’r prosiect. Bu sawl ysgol arall o Sir Benfro ar y daith hon hefyd.
Yn Sanguinet, cafodd y disgyblion gyfle i ymweld ag ysgolion, a chymryd rhan mewn sawl gwers i ddatblygu eu sgiliau Ffrangeg ac archwilio'r ardal leol gan fwynhau hanes y dref.
Yn dilyn y daith honno, croesawyd y plant o Ffrainc i Gymru y llynedd. Roedd y plant yn falch o weld eu ffrindiau eto a chael cyfle i ddysgu ymhellach yn Sir Benfro.
Roedd rhai o’r gweithgareddau’n cynnwys taith i Gastell Penfro, taith o amgylch Adran Addysg Cyngor Sir Penfro a noson gyda Maer Neyland.
Wrth glywed y newyddion bod Ysgol Gymunedol Pennar wedi ennill lefel sylfaen y wobr, dywedodd y pennaeth, Damon McGarvie, a'r athrawon, Victoria Boyle a Nicola Murray: “Mae ennill Gwobr Ysgolion Rhyngwladol yn gamp mor gyffrous, ac rydyn ni i gyd yn hynod falch a diolchgar.
“Mae’n gydnabyddiaeth o’r gwaith caled, yr angerdd a’r ymroddiad rydyn ni wedi’i roi i’r daith hon, ac mae’n anhygoel cael cydnabyddiaeth gan gymuned fyd-eang. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymdrechion pawb a oedd yn rhan o'r prosiect, ac mae wedi bod yn anrhydedd wirioneddol bod yn rhan ohono.
“Wrth edrych yn ôl, mae’r wên ar wynebau’r plant, y chwerthin, a’r profiadau gwerthfawr rydyn ni wedi’u cael dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”
Dywedodd Shannon West, Pennaeth Ysgolion y DU ar gyfer y British Council: “Mae gwaith rhyngwladol Ysgol Gymunedol Pennar wedi ennill cydnabyddiaeth haeddiannol i’r ysgol gyda Gwobr Ysgolion Rhyngwladol y British Council - Tystysgrif Sylfaen.
“Rydym wrth ein bodd ac yn falch bod Ysgol Gymunedol Pennar wedi ymrwymo i ddatblygu dull ysgol gyfan o wreiddio a dathlu gwaith rhyngwladol. Mae ymroddiad pawb yn cyfoethogi addysg ac yn cefnogi pobl ifanc sy'n ymwybodol o'r byd, a hynny drwy ddatblygu sgiliau allweddol.”