
Ysgol Gynradd Llandyfái yn dathlu adroddiad arolwg cadarnhaol
Lamphey Primary School celebrates positive inspection report
Mae Ysgol Gynradd Llandyfái yn dathlu adroddiad arolwg cadarnhaol gan Estyn, y corff sy'n gyfrifol am arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Derbyniodd yr ysgol, a arolygwyd yn gynharach yn y flwyddyn academaidd hon, ganmoliaeth uchel am fod yn 'ysgol hynod gynhwysol' a oedd yn 'cefnogi llesiant disgyblion yn eithriadol o dda.'
Cymeradwyodd yr arolygwyr Ysgol Gynradd Llandyfái am ei hawyrgylch 'feithringar a chytûn', gan nodi bod ymddygiad disgyblion ar draws yr ysgol yn 'rhagorol'.
Amlygodd yr adroddiad fod bron pob disgybl wedi gwneud 'cynnydd eithriadol o effeithiol' wrth ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando.
Yn ogystal â hyn, canmolwyd yr ysgol am flaenoriaethu datblygiad darllen, gan sicrhau bod bron pob disgybl yn datblygu cariad at lyfrau a straeon erbyn iddynt adael gan wneud cynnydd rhagorol.
Mynegodd y Pennaeth Mr Thomas ei falchder am y gydnabyddiaeth gan Estyn, gan ddweud: "Rydym wrth ein bodd bod Estyn wedi cydnabod rhai arferion rhagorol yn ein hysgol, yn ogystal â gwaith caled a chydweithrediad cymuned gyfan ein hysgol.
“Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut rydym wedi creu amgylchedd dysgu ofalgar a chynhwysol sy'n caniatáu i ddisgyblion ffynnu yn academaidd ac yn gymdeithasol. Rwy'n hynod falch o'n cymuned ysgol gyfan."
Mae'r adborth cadarnhaol gan Estyn yn adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad Ysgol Gynradd Llandyfái i ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin amgylchedd gofalgar i'w holl blant.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: "Mae gweld ail adroddiad gwych mewn cynifer o wythnosau yn hwb gwirioneddol i'n cymuned addysg ac yn dyst i'r gwaith caled addysgwyr ar ran eu hysgolion a'u dysgwyr.
“Llongyfarchiadau i Ysgol Llandyfái a phawb sy'n ymroddedig i'r plant yno am yr adroddiad ardderchog hwn gan Estyn.”
ns to Lamphey School and all those that are dedicated to the children there for this excellent Estyn report.”