English icon English
Dinbych y Pysgod canol y dref

Proses ymgeisio am Drwydded Mynediad ar gyfer Cynllun Cerddwyr 2023 Dinbych-y-pysgod

Access Permit application process for 2023 Tenby Pedestrianisation scheme

Mae Cyngor Sir Penfro yn paratoi ar gyfer Cynllun Cerddwyr blynyddol Dinbych-y-pysgod.

Bydd y cynllun yn dechrau ddydd Llun, 3 Gorffennaf, ac yn gorffen ddydd Gwener, 8 Medi, ac yn cael ei gynnal rhwng 11am a 5.30pm bob dydd.

Unwaith eto, bydd y cynllun yn gweld y Dref Gaerog yn cael ei rhannu'n dri 'pharth,' a bydd gan bob un ohonynt raddau amrywiol o fynediad i gerbydau.

Bydd manylion llawn y cynllun a'r ffurflen gais ar-lein ar gael o ddydd Llun, 2 Mai, ac mae ar gael ar wefan y Cyngor.

Mae trigolion a busnesau yn y Dref Gaerog yn cael eu hannog i gwblhau'r broses cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dogfennau fynd yn fyw.

Bydd hyn yn sicrhau bod digon o amser i'r cais gael ei brosesu ac i wiriadau ychwanegol gael eu gwneud pe bai angen mwy o wybodaeth.

Bydd trwyddedau'n cael eu rhoi tua 7-10 diwrnod cyn dyddiad dechrau'r cynllun.

Sylwer na fydd ffurflenni cais a nodiadau arweiniad papur yn cael eu danfon at drigolion a busnesau yn y Dref Gaerog mwyach, a bydd yn ofynnol i geisiadau am drwyddedau gael eu cyflwyno ar-lein.

Er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus y cynllun, anogir deiliaid trwyddedau i barhau i gynllunio teithiau y tu allan i oriau'r cynllun, sef rhwng 11am a 5.30pm, cyn belled ag sy'n ymarferol.

Anfonwch neges e-bost at Tenby.pedestrian@pembrokeshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.