English icon English
Acting Headteacher Ross Williams and pupils at Johnston CP School receive book donations from the Community Benefits scheme.

Ail gam datblygiad cartrefi newydd ar hen safle ysgol wedi’i gwblhau

Second phase of new homes on old school site completed

Mae ail gam y datblygiad eiddo preswyl newydd wedi’i gwblhau yn Johnston.

Mae Cyngor Sir Penfro yn dathlu cwblhau’n llwyr ddatblygiad Lôn yr Hen Ysgol, a gafodd ei adeiladu gan WG Griffiths, carreg filltir bwysig i’r Awdurdod Lleol.

Cafodd cam cyntaf y datblygiad tai ei gwblhau ddiwedd y llynedd - y tai Cyngor cyntaf i gael eu hadeiladu mewn 25 mlynedd - a chyn bo hir bydd mwy o drigolion yn symud i mewn.

Wedi’i adeiladu ar hen safle Ysgol Johnston, mae’r datblygiad yn cynnwys Buddion Cymunedol fel rhodd o lyfrau i Ysgol Gynradd Gymunedol bresennol Johnston.

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro, Mr Ross Williams: “Diolch yn fawr iawn i Gyngor Sir Penfro sydd wedi ein helpu ni i barhau i ddatblygu ein Cynnig Llyfrau Craidd Unigryw; lle mae disgyblion yn darllen testunau o ansawdd uchel wedi’u mapio ar draws pob grŵp blwyddyn."

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod y Cabinet dros Dai: "Mae cynyddu ein cyflenwad o eiddo cyffredinol, eiddo â chymorth ac eiddo wedi’i addasu yn allweddol i’n Rhaglen Datblygu Tai.

"Bydd y cartrefi newydd hyn yn wych i’r tenantiaid newydd hynny sy’n symud i mewn ac ar ôl datblygu polisi gosod lleol ar y cyd â Chyngor Cymuned Johnston, bydd pobl leol yn gallu byw yn eu cymuned gartref eto."

Mae’r datblygiad yn cynnwys 33 o gartrefi newydd sy’n cynnwys cymysgedd o eiddo gydag o un i bum ystafell wely.

Mae’r eiddo wedi’i adeiladu i fodloni lefelau effeithlonrwydd ynni uchel i helpu i gadw costau cynnal i lawr ac wedi’i gynllunio ar gyfer mwy o hyblygrwydd hygyrchedd yn y dyfodol, gan greu ‘cartref am oes’.

Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd gwlyb ar y llawr gwaelod ym mhob eiddo ynghyd â drysau trothwy isel.

Y tu allan i’r datblygiad mae palmentydd bloc hydraidd, gan helpu i leihau’r straen ar y system ddraenio bresennol a gwella’r ffordd y gall dŵr wyneb ddraenio i ffwrdd.

 

 

Yn y llun: Ross Williams y Pennaeth Dros Dro a disgyblion Ysgol Gynradd Johnston yn derbyn rhoddion o lyfrau gan y cynllun Buddion Cymunedol.