English icon English
Siop Tufton Maenor Scolton

Amgueddfa Maenordy Scolton yn agor siop dreftadaeth newydd

Museum at Scolton Manor opens new Heritage shop

Mae Maenordy Scolton, sef maenordy ac amgueddfa gerddi Fictoraidd Sir Benfro, yn parhau i fynd o nerth i nerth fel atyniad poblogaidd i ymwelwyr ac mae bellach yn agor arddangosfa a siop dreftadaeth newydd.

Cafodd yr amgueddfa asesiad achredu yn ddiweddar a chafodd ganmoliaeth uchel gan swyddogion Llywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i ymgysylltu â’i hymwelwyr a chymuned Sir Benfro.

Nododd Sarah Paul, Cynghorydd Safonau a Pherfformiad Amgueddfeydd Llywodraeth Cymru, fod barn aseswr allanol uchel ei barch am yr amgueddfa yn hynod gadarnhaol.

Mae hwn yn wasanaeth amgueddfa trawiadol iawn, a gynhelir gan dîm bach iawn o dan bwysau ariannol aruthrol, a ariennir gan Gyngor Sir Penfro sydd hefyd yn wynebu ei heriau ariannol ei hun.

“Yr hyn sy’n gwneud i’r amgueddfa hon sefyll allan yw ei hymrwymiad a’i darpariaeth i ymgysylltu â’i defnyddwyr a’i hymwelwyr. Er nad yw ffigurau'r ymwelwyr wedi gwella i'r lefelau a fu cyn y pandemig eto, mae’r ddarpariaeth a'r gweithgareddau ar y safle, ynghyd â’r perthnasoedd, partneriaethau, a'r cydweithio sydd ar waith yn dangos eu bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.”

Mae hyn wedi cyd-daro ag agor Siop Tufton 'Gwalia Stores' newydd yr amgueddfa. Mae'r adeilad a'r arddangosfa dreftadaeth newydd bellach ar agor bob dydd fel rhan o'r safle ac mae'n gwella treftadaeth 'pentref rheilffordd'. Y cynllun fydd datblygu'r arddangosfa dreftadaeth yn Siop Tufton dros yr wythnosau nesaf.

Bydd dau ddiben i'r ganolfan; bydd yn agor fel arddangosfa dreftadaeth amgueddfa fechan, a bydd Siop Tufton hefyd yn gwerthu dodrefn pren a weithgynhyrchwyd yn lleol a phlanhigion gardd yn ei gofod awyr agored newydd.

Yn ddiweddarach yn y tymor, bydd y siop yn anelu at ddatblygu’r detholiad o eitemau sydd ar gael a'r bwriad yw gwerthu cynnyrch wedi’i gynaeafu o’r ardd furiog. Bydd y siop yn parhau i fod yn ffrwd incwm bwysig i’r amgueddfa wrth iddi barhau i dyfu ac ymgysylltu â chymuned Sir Benfro.

Dywedodd Mark Thomas, Rheolwr yr Amgueddfa, ei fod yn falch iawn o'r adeilad newydd, ac meddai: “Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi symud y siop o’i lleoliad yn y pentref gydag un aelod arall o staff, mae’n wych ei gweld yn ôl ar agor fel amgueddfa fach a siop fasnachu.”

Mae'r amgueddfa hefyd wedi cael cefnogaeth leol gan y Cynghorydd Rhys Sinnett o Sir Benfro, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, a ganmolodd waith cydweithwyr ymroddedig yr amgueddfa. Dywedodd: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn glod i’r gwaith mae Mark a’i dîm yn ei wneud ym Maenordy Scolton. Rwy'n falch iawn a hoffwn  longyfarch y tîm am yr ymdrech wych hon.”