English icon English
Pennaeth Nick Dyer gyda'r Aelod Cabinet Rhys Sinnett a'r Cyngor Viv Stoddart gyda disgyblion cyngor ysgol

Apêl ysgol i berchnogion cŵn anghyfrifol godi baw

School’s plea to irresponsible dog owners to pick up mess

Mae perchnogion cŵn o gwmpas Ysgol Gelliswick yn cael eu hannog i ‘godi baw cŵn’, mewn ymgais i dargedu problemau yn yr ardal.

Mae disgyblion a'u teuluoedd wedi wynebu'r broblem barhaus o faw cŵn o amgylch yr ysgol yn rheolaidd, sy’n achosi llanast yn ogystal â risgiau iechyd sylweddol.

Mae'r Cynghorydd Sirol Lleol, Viv Stoddart, wedi bod yn gweithio gyda swyddogion amgylcheddol y Cyngor a’r ysgol ar ffyrdd o ddatrys y broblem, gan gynnwys creu timau Troseddau Amgylcheddol i ganolbwyntio ar yr ardal.

"Mae Ysgol Gelliswick yn awyddus i fynd i'r afael â’r broblem baw cŵn o gwmpas yr ysgol felly gofynnais i’r tîm Troseddau Amgylcheddol roi sylw i hyn. Mae gennym hefyd aelod o staff cynnal a chadw ymroddedig iawn sy'n cerdded y llwybrau a ffordd Gelliswick ym mhob tywydd bob bore yn ystod yr wythnos yn codi’r baw, yr ydym yn diolchgar iawn iddo, yn ogystal â glanhau'r llwybrau'n rheolaidd, sy’n cael llawer iawn o ddefnydd gan ddisgyblion a'u teuluoedd.

"Rydym yn falch bod rhywfaint o welliant wedi bod ond mae'n siomedig bod rhai perchnogion cŵn yn dal i wrthod bod yn gyfrifol ac yn parhau i ddifetha'r ardal i drigolion eraill."

Dywedodd Warren Hodgeson, o WISE, fod swyddog gorfodi wedi bod yn patrolio ger yr ysgol ar adegau prysur ddau ddiwrnod yr wythnos ers mis Ionawr, gan arwain at gyflwyno tri Hysbysiad Cosb Benodedig am faw cŵn yn yr ardal.

Mae 16 o’r hysbysiadau hyn hefyd wedi eu cyhoeddi yn ardal ehangach Gelliswick am droseddau sbwriel eleni.

"Mae 'na dipyn o faw cŵn ar y strydoedd o hyd ac mae'n debygol iawn mai'r un perchnogion cŵn sy'n gyfrifol. Rydyn ni’n dal i neilltuo adnoddau i'r ardal i sicrhau bod newid cadarnhaol yn dal i ddigwydd," ychwanegodd Mr Hodgeson.

Dywedodd y Pennaeth Nick Dyer: "Mae'r plant yn bryderus iawn am y broblem, ac mae'r Cyngor Ysgol wedi ei godi gyda'r corff Llywodraethol. Mae pob palmant, llwybr troed a llain laswellt o amgylch yr ysgol wedi bod yn berygl posibl. 

"Mae ein dysgwyr yn gwybod bod baw cŵn yn y lle anghywir yn gallu dod â chlefyd, ac maen nhw'n gwybod bod hyn yn golygu nad ydyn nhw mor ddiogel ag y dylen nhw fod. 

"Ond mae'r plant yn diolch yn fawr iawn i'r holl berchnogion cŵn cyfrifol, ac mae'r ysgol hefyd yn ddiolchgar iawn bod cymaint yn y Cyngor yn cymryd hyn o ddifrif.  Mae angen i'r ychydig berchnogion cŵn sy'n weddill ei gymryd yr un mor o ddifrif."

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Yn anffodus, mae baw cŵn yn dal i fod yn broblem yn Sir Benfro, fel y mae ledled y DU, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod ffocws rhagweithiol ar fynd i'r afael â'r hyn sy'n eithaf amlwg yn ffiaidd ar lawer o'n strydoedd.

"Fel Awdurdod rydym yn annog pobl i barchu ein hamgylchedd a'n cymuned. 

"Mae Cyngor Sir Penfro yn mynd i'r afael â baw cŵn fel rhan o'n gwaith Troseddau Amgylcheddol ac mae swyddogion WISE allan bob dydd yn monitro'r mater hwn yn ogystal â throseddau sbwriel eraill gyda’r posibilrwydd o gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig."

Yn y Llun: Pennaeth Nick Dyer gyda'r Aelod Cabinet Rhys Sinnett a'r Cyngor Viv Stoddart gyda disgyblion cyngor ysgol Poppy, Mali, Carley, Matthew and Anaya.

Nodiadau i olygyddion