English icon English
Enwebiad gwobr gweithwyr ieuenctid

Balchder gweithwyr ieuenctid yn dilyn enwebiad gwobr iechyd meddwl

Youth workers’ pride at mental health award nomination

Mae Gweithwyr Ieuenctid mewn Ysgolion o Wasanaethau Ieuenctid Sir Benfro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog drwy annog pobl ifanc i siarad am iechyd meddwl.

Mae'r tîm wedi cael ei enwebu yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles 2023 a gynhelir fis nesaf yng Nghaerdydd.

Mae'r tîm wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol i gael effaith gadarnhaol drwy greu menter neu raglen sy'n ymroddedig i wella lles meddyliol eu hamgylchedd addysgol.

Mae'r tîm wedi cael ei ddewis am y camau a gymerwyd i chwalu'r rhwystrau i drafod iechyd meddwl yn agored a chreu amgylchedd lle mae disgyblion yn cael eu hannog ac yn teimlo'n gyfforddus i siarad am eu hiechyd meddwl.

Dywedodd Chris Powles, Rheolwr Tîm Ieuenctid wedi'i Dargedu: “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn destament gwirioneddol i ymdrechion y tîm o weithwyr ieuenctid sy'n ymroddedig i gefnogi datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc. Mae helpu i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u lles yn un o feysydd allweddol y gwaith hwn. 

“Mae'r perthnasoedd unigryw mae gweithwyr ieuenctid yn eu meithrin gyda phobl ifanc mewn ysgolion yn golygu ein bod yn aml mewn sefyllfa dda i ddarparu cefnogaeth a herio yn ôl yr angen mewn modd llai ffurfiol.  

“Mae'r adborth uniongyrchol a gawn gan y bobl ifanc ar yr effaith mae hyn yn ei gael wrth eu helpu yn dangos i ni fod y tîm gwaith ieuenctid yn wasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr ac yn rhagorol yn yr hyn maen nhw'n ei wneud”.

Cynhelir y gwobrau ar 2 Hydref yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Nodiadau i olygyddion

Capsiwn:

Aelodau o'r tîm Gweithwyr Ieuenctid yn yr Ysgol sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobr yn y Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles.