
Band eang cyflym iawn i Drefdraeth a Maenorbŷr
Newport and Manorbier set for ultrafast broadband
Mae Openreach wedi cyhoeddi y gallai cartrefi a busnesau cymwys ym Maenorbŷr a Threfdraeth gael band eang cyflymach cyn bo hir gyda chefnogaeth Cynllun Talebau Band Eang Gigadid (GBVS) llywodraeth y DU.
Mae Openreach wedi nodi bod y ddau leoliad hyn yn Sir Benfro o fewn y cwmpas ar gyfer uwchraddio i fand eang ffeibr llawn, sydd i fod i ddigwydd rhwng 2025 a 2026, gan wneud rhyngrwyd gwael yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol. Ar hyn o bryd mae cyfanswm o 2,126 o adeiladau wedi'u cynnwys yn y cynllun adeiladu, 1,162 ym Maenorbŷr a 964 yn Nhrefdraeth.
Mae trigolion cymwys eisoes wedi dechrau addo Talebau Gigadid i ddod â band eang ffeibr llawn i'w cymunedau trwy wneud cais am a chyfuno eu Talebau Gigadid Llywodraeth y DU am ddim i helpu i ariannu'r gwaith gosod.
Gall Cynllun Talebau Band Eang Gigadid (GBVS) llywodraeth y DU helpu pobl mewn cymunedau anodd eu cyrraedd nad ydynt mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gael uwchraddiad band eang trwy gynlluniau masnachol neu gynlluniau presennol a ariennir gan y llywodraeth, i uwchraddio eu cysylltiadau band eang.
Mae'r gwaith o uwchraddio band eang yn rhan annatod o roi hwb i dwf economaidd busnesau lleol, yn ogystal â sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau hanfodol y gallent fod eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, rhoi gwell mynediad at ofal iechyd trwy apwyntiadau rhithwir a monitro iechyd o bell, ynghyd â gwell cysylltedd sy'n galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Mae band eang Gigadid yn cynnig gwell cyflymder ac yn llai tebygol o arafu ar adegau prysur, sy'n golygu na fydd angen i chi boeni am led band wrth geisio cael mynediad i'r rhyngrwyd, ffrydio neu weithio ar-lein. Os bydd pob cartref a busnes lleol cymwys yn addo Talebau Gigadid y DU, bydd hyn yn golygu y byddai'r ddarpariaeth ffeibr lawn yn cynyddu i 97% ym Maenorbŷr ac 81% yn Nhrefdraeth, gan wella'r gwasanaeth band eang yn lleol yn sylweddol.
Hyd yn hyn, mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda nifer yr addewidion ar gyfer y nod ariannu yn 61% ym Maenorbŷr a 64% yn Nhrefdraeth.. Fodd bynnag, nid yw’r isafswm addewidion wedi'i gyrraedd eto, ac mae angen 64 o dalebau wedi'u dilysu'n llawn yn Nhrefdraeth a 99 ym Maenorbŷr er mwyn i'r gwaith gael ei wneud.
Gall trigolion wirio a ydynt yn gymwys ac ymrwymo eu talebau ar wefan Cysylltu fy Nghymuned.
Nid yw'r talebau dilys yn costio dim i drigolion ac os bydd digon yn ymrwymo gall Openreach weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi'i deilwra a'i ariannu ar y cyd. Gellir cyfuno’r talebau i ymestyn y rhwydwaith cyflym a dibynadwy iawn i adeiladau mewn ardaloedd gwledig anghysbell na fyddant yn cael eu cynnwys yn y buddsoddiad preifat.
Fel rhan o'r amodau cyllido, gofynnir i drigolion ymrwymo i archebu gwasanaeth newydd gan ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd neu rwydwaith o'u dewis am o leiaf 12 mis pan fydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau eu bod wedi’u cysylltu.
Mae'r penderfyniad ar adeiladu'r seilwaith ffeibr, yr adeiladau a gwmpesir, a'r amserlen i gyd yn destun arolygon technegol, yn ogystal â nifer y talebau a addawyd gan y gymuned.
Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru: “Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y rhannau hyn o Sir Benfro gan y bydd yn sicrhau holl fanteision band eang ffeibr llawn cyflym iawn a dibynadwy iawn i'w cymuned.
“Mae ein rhaglen Partneriaeth Ffeibr Cymunedol wedi golygu ein bod wedi gallu cynnwys miloedd o eiddo ychwanegol ledled Cymru a gweddill y DU yn ein cynlluniau adeiladu ffeibr llawn. Ond mae datblygu'r rhwydwaith yn y lleoliadau sy'n anoddach i'w cyrraedd yn dal i fod yn heriol, a dyna pam mae hyn dim ond yn bosibl gyda phawb yn cydweithio - chi, eich cymdogion ac Openreach.
“Bydd pawb sy'n addo eu talebau yn gwneud eu rhan i helpu i wneud eu cymuned yn un o'r lleoedd sydd â'r cysylltedd gorau yn y DU.”
“Rydym yn buddsoddi £15 biliwn i roi band eang ffeibr llawn i 25 miliwn o gartrefi, a bydd mwy na chwe miliwn o'r rheiny yn nhraean yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd yn y DU - ond allwn ni ddim uwchraddio'r wlad gyfan ar ein pennau ein hunain. Mae'r cymorth diweddaraf hwn gan y llywodraeth yn rhan hanfodol o'r broses honno.”
Pan fydd targed yr addewid ar gyfer y cynllun wedi’i fodloni, mae angen i drigolion sicrhau eu bod wedyn yn dilysu eu talebau gyda’r Llywodraeth fel y gall Openreach gadarnhau y gall gwaith ddechrau.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Cyngor Sir Penfro: “Mae llawer o ardaloedd gwledig Sir Benfro yn dal i gael eu tan-wasanaethu’n sylweddol gan eu cysylltedd band eang oherwydd eu bod yn lleoedd heriol i adeiladu’r seilwaith angenrheidiol. Felly, mae'r lleoliadau diweddaraf hyn yn gam i'w groesawu tuag at sicrhau bod ardaloedd gwledig yn cael yr un chware teg â'r ardaloedd trefol o ran digidol. Yn ogystal â gwell safon byw i gymunedau, mae hefyd yn golygu dyfodol mwy llewyrchus yn economaidd trwy fod â chysylltiadau gwell."
Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn darparu cysylltedd dibynadwy, gwydn a chyflym; gan olygu llai o ddiffygion; cyflymderau mwy rhagweladwy, cyson a digon o gapasiti i fodloni gofynion data cynyddol yn hawdd. Mae hefyd yn addas ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu y bydd yn gwasanaethu cenedlaethau i ddod ac na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.
Os ydych chi'n byw yn Sir Benfro a bod gennych chi unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â gwella eich band eang, gallwch gysylltu â'ch Hyrwyddwyr Digidol lleol, a fydd yn gallu eich helpu.
Ewch i wefan Openreach i gael rhagor o wybodaeth am fand eang ffeibr Openreach.
Nodiadau i olygyddion
Mae'n rhaid i'ch cyflymder cysylltiad newydd gyrraedd o leiaf ddwywaith eich cyflymder presennol os yw'ch cyflymder presennol yn llai na 50Mbps, neu o leiaf 100Mbps os yw eich cyflymder presennol yn fwy na 50Mbps (UK Gov gigabit-broadband-voucher-scheme-information).