English icon English
Bus driver - Gyrrwr bws

Blwyddyn Newydd, gwasanaethau bws newydd wrth i newidiadau gael eu cyflwyno

New Year, new bus services as changes introduced

Bydd nifer o newidiadau i wasanaethau bysiau lleol allweddol yn Sir Benfro yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2025, gan gynnwys adfer rhai gwasanaethau sydd wedi’u cwtogi.  

Mae'r newidiadau wedi'u cynllunio i wella prydlondeb a pherfformiad gwasanaeth ar lwybrau allweddol. 

Yn ogystal â hyn, bydd nifer o wasanaethau a oedd wedi cael eu cwtogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cael eu hadfer. 

Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn rhwng Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod trwy Ddoc Penfro, gwasanaeth dydd Sadwrn rhwng Dinbych-y-pysgod a Phentywyn a theithiau ychwanegol yn ystod y dydd rhwng Hwlffordd ac Aberllydan, a rhwng Pontfadlen a chanol tref Hwlffordd. 

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau i Drigolion: "Rydym wedi gwrando ar adborth gan deithwyr ac wedi gweithio gyda gweithredwyr bysiau i roi'r gwelliannau hyn ar waith gyda chyllid ychwanegol drwy Grant Rhwydwaith Bysiau Llywodraeth Cymru.

“Gobeithiwn y bydd y newidiadau hyn yn darparu gwasanaeth gwell a mwy dibynadwy i ddefnyddwyr bysiau yn Sir Benfro.”

Efallai y bydd teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau Fflecsi Sir Benfro hefyd yn sylwi bod ap Fflecsi bellach yn rhoi manylion amserlenni bysiau lle mae gwasanaeth bws llwybr sefydlog ar gael ar gyfer y daith y maen nhw wedi gofyn amdani. Bydd hyn yn helpu i wella argaeledd gwasanaeth Fflecsi ar gyfer teithiau lle nad oes opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus arall. 

Bydd amserlen dros dro hefyd yn cael ei chyflwyno ar wasanaeth T5 a weithredir gan Richards Bros rhwng Hwlffordd ac Aberteifi, oherwydd bod prif ffordd ar gau yn Nhrefdraeth.

I gael rhagor o wybodaeth a chopïau o'r amserlenni newydd, ewch i https://www.sir-benfro.gov.uk/llwybrau-bysiau-ac-amserlenni/newidiadau-arfaethedig-ir-gwasanaeth-bysiau neu cysylltwch â public.transport@pembrokeshire.gov.uk

Mae'r newidiadau fel a ganlyn:

O 04/1/25

351 – Dinbych-y-pysgod-Amroth-Pentywyn (Bysiau Cwm Taf)

  • Bydd y gwasanaeth nawr yn rhedeg ar ddydd Sadwrn yn ystod y gaeaf hefyd.

O 6/1/25

301 Gwasanaeth Tref Hwlffordd (Cyngor Sir Penfro)

  • Ni fydd y gwasanaeth yn galw yn Augustine Way mwyach. Mae arosfannau bysiau eraill ar gael yn St Thomas Green neu Horsefair.
  • Arhosfan newydd ar lôn Scarrowscant ger y gyffordd â Tasker Way.

302 - Ysbyty Llwynhelyg–Hubberston (First Cymru)

  • Amser ychwanegol wedi’i ychwanegu at deithiau i helpu gyda phrydlondeb.

307 Hwlffordd i Bontfadlen (Cyngor Sir Penfro)

  • Gwasanaeth newydd canol bore (dydd Llun i ddydd Gwener) a chanol y prynhawn (dydd Gwener yn unig).

308 Cylch Hwlffordd-Llangwm-Burton (Cyngor Sir Penfro)

  • Bydd taith y prynhawn yn galw yn ysbyty Llwynhelyg a’r parc manwerthu.

311 Hwlffordd – Aberllydan (Cyngor Sir Penfro)

  • Darperir dwy daith ychwanegol, canol bore a chanol y prynhawn.

322 Ysbyty Llwynhelyg – Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin (First Cymru)

  • Newid i'r llwybr yng Nghaerfyrddin. Bydd bws yn mynd o orsaf fysiau Caerfyrddin o gwmpas y ffordd osgoi i ysbyty Glangwili, ac yna'n dychwelyd drwy'r dref.
  • Cysylltiad â’r 381 yn Arberth ar gyfer teithio i/o Ddinbych-y-pysgod wedi'i gynnal.

Amser ychwanegol wedi’i ychwanegu at deithiau i helpu gyda phrydlondeb.

349 Hwlffordd- Doc Penfro-Dinbych-y-pysgod (First Cymru)

  • Newid i'r llwybr yn Hwlffordd. Bydd bws yn gadael o’r Orsaf Fysiau i ysbyty Llwynhelyg, yna o gwmpas y ffordd osgoi i Picton Place.
  • Bydd gwasanaeth 14.25 o Hwlffordd yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig yn ystod gwyliau'r ysgol.
  • Bws hwyrach newydd o Benfro-Hwlffordd am 19.40.
  • Gwell cysylltiad â‘r 381 yn Ninbych-y-pysgod.
  • Amser ychwanegol wedi’i ychwanegu at deithiau i helpu gyda phrydlondeb.

381 Hwlffordd-Arberth-Dinbych-y-pysgod (First Cymru)

  • Newid i'r llwybr yn Hwlffordd. Bydd bws yn gadael o’r Orsaf Fysiau i ysbyty Llwynhelyg, yna o gwmpas y ffordd osgoi ar ei ffordd allan o'r dref tuag at Arberth. Bydd teithwyr i barc manwerthu Llwynhelyg yn defnyddio'r arhosfan y tu allan i Home Bargains ar gyfer teithiau yno ac yn ôl.
  • Cysylltiad â’r 322 yn Arberth ar gyfer teithio i/o Gaerfyrddin wedi'i gynnal.
  • Gwell cysylltiad â’r 349 yn Ninbych-y-pysgod.
  • Amser ychwanegol wedi’i ychwanegu at deithiau i helpu gyda phrydlondeb

T5 Hwlffordd-Abergwaun-Aberteifi-Aberystwyth (Richards Bros)

  • Bydd amserlen dros dro ar waith o 6/1/25 am o leiaf 8 wythnos, oherwydd bod ffyrdd ar gau yn Nhrefdraeth.
  • Ni fydd bysiau yn gallu defnyddio'r brif arhosfan bysiau yn Nhrefdraeth. Bydd arosfannau bysiau amgen ar gael yn Neuadd Goffa Trefdraeth a'r Golden Lion.
  • Oherwydd y llwybr gwyro cul, bydd bws mini hygyrch llawr isel yn cael ei ddarparu rhwng Abergwaun ac Aberteifi.
  • Bydd yn rhaid i bob teithiwr newid yn Abergwaun ar gyfer teithio ymlaen tuag at Aberteifi neu Hwlffordd.
  • Bydd y 07.45 o Hwlffordd yn dod i ddiwedd ei daith yn Abergwaun.