English icon English
Creatives night - Noson Greadigol

Bobl greadigol, dewch i sesiwn cyngor a rhwydweithio fis yma!

Calling all creatives, join this month’s advice and networking drop-in!

Bydd Tîm Busnes Sir Benfro a Gorllewin Cymru Greadigol yn ymuno â’i gilydd mewn sesiwn Galw Heibio fis yma i ddathlu a chefnogi diwydiannau creadigol anhygoel y rhanbarth.

Gwahoddir cwmnïau, gweithwyr llawrydd neu bobl sy'n ystyried dechrau busnes newydd, i ymweld â Chanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro ddydd Gwener, 28 Mawrth, 9am i 12pm i gael gwybod pa gymorth busnes sydd ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Sir Penfro, Busnes Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Croeso Sir Benfro.

Bydd sesiwn rwydweithio yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl greadigol eraill, archwilio cydweithrediadau posibl, a chwrdd â chynrychiolwyr o'r Egin, Cymru Greadigol a Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i bobl dalentog yn ardal y gorllewin, yn enwedig y rhai yn y sectorau cerddoriaeth, sgrin, gemau cyfrifiadurol, cyhoeddi ac animeiddio.

Dywedodd Anwen Baldwin, Swyddog Diwydiannau Creadigol Cyngor Sir Penfro: "Mae cyfoeth o dalent greadigol yn y maes hwn y dylid ei ddathlu a'i gefnogi.

“Rydym yn cynnal digwyddiad busnes galw heibio poblogaidd ar ddydd Gwener olaf pob mis. Mae'n wych gallu canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol y mis hwn a chynnig cyfle i ddysgu mwy am ba gymorth sydd ar gael, trafod heriau a rhwydweithio â phobl leol eraill o'r sectorau hyn."

Os hoffech arddangos eich gwaith yn ystod y digwyddiad, e-bostiwch anwen.baldwin@pembrokeshire.gov.uk

Bydd lluniaeth ar gael, cofrestrwch drwy Eventbrite Digwyddiad Galw Heibio i Fusnesau / Drop In Business Support & Networking Tickets, Multiple Dates | Eventbrite