Cyngor ar goelcerthi yn dilyn cynnydd yn nifer y cwynion
Bonfire advice follows rise in complaints
Gofynnir i breswylwyr Sir Benfro ystyried yr effaith ar gymdogion wrth gynnau coelcerth.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi gweld cynnydd yn nifer y cwynion am fwg ac arogleuon o goelcerthi yn ystod y cyfnod o dywydd poeth ar hyn o bryd.
Dywedodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Rydym wedi mwynhau rhywfaint o dywydd braf dros yr wythnosau diwethaf, ond cafwyd hefyd gynnydd yn nifer y cwynion am goelcerthi, yn anffodus.
“Rydym yn gofyn i breswylwyr roi gwybod i'w cymdogion os ydynt am gael coelcerth er mwyn osgoi problemau a sefyllfaoedd fel mwg yn effeithio ar y golch yn sychu.
“Yn amlwg, yn ystod y tywydd cynhesach mae pobl yn fwy tebygol o fod yn mwynhau eu gerddi a'r awyr agored, a gallai rhywfaint o gyfathrebu helpu i atal problemau rhag codi.
“Ystyriwch hefyd y risg o gynnau tanau gwyllt wrth gynnau coelcerthi, a gwnewch bopeth o fewn eich gallu i liniaru'r risg honno. Mae hyn bob amser yn bwysig ond mae’n bwysicach fyth o ystyried y tywydd sych iawn rydym yn ei gael.”
Os ydych yn bwriadu cynnau coelcerth:
- Rhowch wybod i’ch cymdogion
- Llosgwch ddeunydd sych yn unig
- Peidiwch byth â llosgi sbwriel cartrefi, teiars rwber na dim byd sy’n cynnwys plastig, ewyn na phaent
- Peidiwch byth â defnyddio olew peiriannau, meths neu betrol i gynnau neu annog y tân
- Ystyriwch y tywydd – mae mwg yn aros yn yr aer ar ddiwrnodau gwlyb a gellir chwythu mwg ymhobman ar ddiwrnodau gwyntog
- Peidiwch â gadael tân heb neb i ofalu amdano
Yn ddewisiadau amgen yn lle coelcerthi, cynghorir preswylwyr i gompostio glaswellt a thoriadau coed, neu i storio gwastraff yn hytrach na’i losgi.
Gellir darnio gwastraff coed i’w wneud yn addas ar gyfer compostio neu daenu.
Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth gwastraff gardd bob pythefnos, drwy danysgrifiad, rhwng mis Mawrth a diwedd mis Tachwedd. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.
Mae mwy o wybodaeth am goelcerthi hefyd ar y wefan.