Byd o beirianneg a weldio yn SPARCio diddordeb dysgwyr benywaidd Ysgol Harri Tudur
World of engineering and welding SPARCs interest in Ysgol Harri Tudur’s female learners
Rhoddodd digwyddiad a gynhaliwyd gan Ledwood Engineering brofiad uniongyrchol o fyd peirianneg i ferched o Flwyddyn 8 a 9 yn Ysgol Harri Tudur yn ddiweddar.
Mae Peirianneg yn sector ffyniannus yn Sir Benfro ac mae galw mawr am weithwyr medrus mewn llwybrau gyrfa cyffrous sy'n gysylltiedig â datblygu diwydiant ynni adnewyddadwy carbon isel a'r Porthladd Rhydd Celtaidd.
Clywodd y menywod ifanc gan arbenigwyr yn y diwydiant am bwysigrwydd peirianneg yn Sir Benfro, a chawsant brofiad ymarferol yn defnyddio efelychydd weldio, ar safle’r cwmni yn Noc Penfro.
Mae'r dysgwyr yn rhan o fenter SPARC (Pŵer Cynaliadwy ac Adeiladu Adnewyddadwy) y Sir sydd â'r nod o ysbrydoli a grymuso merched ifanc i ystyried gyrfaoedd mewn llwybrau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) lle mae menywod yn cael eu tangynrychioli yn y gweithlu.
Ariennir SPARC trwy gynghrair sy'n cynnwys Blue Gem Wind, Ledwood Engineering, Porthladd Aberdaugleddau, RWE Renewables, Cyngor Sir Penfro, Coleg Sir Benfro a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Dywedodd Mrs Laura Buckingham, ymarferydd SPARC yn Ysgol Harri Tudur: "Cafodd ein dysgwyr brofiad gwych yn Ledwood Engineering. Rhoddwyd llawer o gyngor iddynt gan arbenigwyr y diwydiant ar y gwahanol ddewisiadau gyrfa a llwybrau yn y sector peirianneg.
“Roeddent yn gwerthfawrogi'r cyfle i ofyn eu cwestiynau ac roedd y sesiwn yn addysgiadol iawn. Roedd cael y cyfle i dreialu eu sgiliau weldio ar yr efelychydd yn brofiad y maent yn parhau i siarad amdano ac yn bendant wedi ennyn eu diddordeb.”
Ychwanegodd Poppy Sawyer, dysgwr SPARC Blwyddyn 8: "Roedd yn daith dda iawn. Mae siarad â'r gwahanol bobl yno wedi fy helpu i wybod mwy am y swyddi y gallem eu cael a fydd yn ddefnyddiol iawn wrth wneud dewisiadau ar gyfer fy nyfodol."
“Fe wnaethon nhw ein helpu ni trwy roi llawer o wybodaeth i ni. Roedden ni'n gallu edrych o gwmpas a cheisio weldio. Roedd yn llawer o hwyl," ychwanegodd Tianna Marshall, dysgwr SPARC Blwyddyn 8.
Lansiodd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ei gwefan ryngweithiol Darganfod Peirianneg yn y digwyddiad hefyd.