English icon English
crossfit 1

Cannoedd o ddisgyblion wedi cymryd rhan yn y trydydd Gemau CrossFit

Hundreds of pupils take part in third Crossfit Games

Ymunodd Chwaraeon Sir Benfro a CrossFit Pembrokeshire â’i gilydd yn ddiweddar i gynnal y Gemau CrossFit Ysgolion ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd lleol.

Bu 11 o ysgolion cynradd a chwe ysgol uwchradd Sir Benfro yn cymryd rhan, gyda’r grwpiau blwyddyn yn amrywio o Flwyddyn 5 hyd at Flwyddyn 10.

Mae CrossFit yn gymysgedd o gryfder, gymnasteg a chardio, a bu’r cyfranogwyr yn perfformio amrywiaeth o ymarferion. Roedd rhai ymarferion ar gyfer unigolion, a bu’n rhaid i’r disgyblion weithio fel tîm hefyd.

“Cafwyd torf anhygoel ac roedd yn braf iawn creu profiad cadarnhaol â gweithgaredd newydd,” meddai Georgia Osborne Davies o Chwaraeon Sir Benfro.

Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn cael ei gynnal ers tair blynedd yng ngofal Sam Fenneck o CrossFit Pembrokeshire, sydd â safleoedd yn Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod.

Yn y llun mae disgyblion cynradd ac uwchradd a fu’n cymryd rhan yn y Gemau CrossFit Ysgolion.