Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn dod â straeon Roald Dahl yn fyw
Pembrokeshire Learning Centre brings Roald Dahl’s stories to life
Rhoddodd diwrnod o weithdai drama gyfle i ddisgyblion Canolfan Ddysgu Sir Benfro gamu y tu hwnt i dudalennau llyfr ac ymgolli mewn dwy o straeon mwyaf poblogaidd Dahl.
Aeth dysgwyr o Puffins, prif ddarpariaeth Canolfan Ddysgu Sir Benfro, i fyd hyfryd o ddychmygus Charlie a'r Ffatri Siocled tra bu dysgwyr o Haven (Canolfan Adnoddau Dysgu) yn archwilio cymeriadau, themâu a stori Matilda, trwy ddrama, adrodd straeon, symud a gweithgareddau creadigol.
O'r cychwyn cyntaf, gwnaeth disgyblion gofleidio'r profiad yn frwdfrydig. Ar ôl cynhesu’r corff a’r llais cafwyd gemau drama, adrodd straeon a gwaith cymeriadau, gyda phropiau a cherddoriaeth yn helpu i ddod â'r straeon yn fyw. Ail-greodd y disgyblion adegau allweddol y llyfrau a chael llawer o hwyl yn arbrofi gyda defnydd enwog Dahl o iaith chwareus a dychmygus.
Cynlluniwyd y gweithdai i wneud llythrennedd yn weithredol, yn hygyrch ac yn hwyliog, gan roi cyfle i ddisgyblion ddatblygu geirfa a dealltwriaeth wrth gryfhau sgiliau siarad, gwrando, cyfathrebu a gwaith tîm. Cafodd y disgyblion hefyd eu cyflwyno i gymeriadu a geirfa allweddol y Celfyddydau Mynegiannol, gan fagu hyder a chreadigrwydd ar hyd y ffordd.
Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Canolfan Ddysgu Sir Benfro: "Roedd yn wych gweld ein disgyblion yn cymryd rhan mor frwdfrydig. I rai o'n dysgwyr, gall datblygu hyder gyda darllen a llythrennedd fod yn heriol, felly mae dod o hyd i ffyrdd creadigol o wneud straeon yn ystyrlon a hygyrch yn bwysig iawn.
“Mae profiadau fel hyn yn dangos i'n disgyblion fod llythrennedd yn llawer mwy na geiriau ar dudalen. Gall gynnwys perfformio, dychmygu, cyfathrebu a chael hwyl. Fe wnaeth ein disgyblion llwyr ymroi i'r diwrnod, ac roedden ni'n hynod falch ohonynt.
“Mae'r digwyddiad yn rhan o ymrwymiad ehangach Canolfan Ddysgu Sir Benfro i ddatblygu llythrennedd a chariad at ddarllen, gan sicrhau bod disgyblion yn cael profiadau dysgu diddorol sy'n eu helpu i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a phrofi llwyddiant.
“Roedd y diwrnod hefyd yn ddathliad o greadigrwydd a brwdfrydedd holl ddisgyblion Canolfan Ddysgu Sir Benfro, gan ddangos sut y gall dysgu ffynnu pan fydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i brofi'r cwricwlwm mewn ffyrdd gwahanol a chyffrous.”
Diolch yn fawr iawn i Shine Drama Workshops am ddarparu profiad mor egnïol a chofiadwy, ac i'r disgyblion a'r staff a gofleidiodd y dathliadau gyda chymaint o frwdfrydedd.