Pembrokeshire County Council logo - Logo Cyngor Sir Penfro

Ceisio cyngor cyfreithiol i fynd i'r afael â gorfodaeth safle tirlenwi Withyhedge

Legal advice sought to address Withyhedge landfill enforcement

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ceisio cyngor cyfreithiol ac mae'n ystyried achos cyfreithiol yn erbyn gweithredwyr safle tirlenwi Withyhedge, RML, ynghylch y problemau arogleuon parhaus ar y safle.

Mae'r Cyngor yn bwriadu gofyn i'r Llys am waharddeb sy'n ei gwneud yn ofynnol i RML leihau'r arogl sy’n achosi niwsans i’r cyhoedd sy'n dod o'r safle tirlenwi. Byddai methu â chydymffurfio â'r waharddeb yn ddirmyg llys, sy'n cynnwys cosb o hyd at ddwy flynedd o garchar a dirwy ddiderfyn.

Yn dilyn gwaith sylweddol a wnaed gan RML, mae'r Awdurdod yn siomedig nad yw'r broblem wedi'i datrys ac mae'r arogl yn parhau i effeithio ar drigolion.

Gan weithio ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), rydym yn llwyr werthfawrogi na all y cymunedau yr effeithir arnynt oddef hyn mwyach.

Cyhoeddodd CNC fod y set gyntaf o ddyddiadau cau ar gyfer cwblhau camau gweithredu i fynd i'r afael â'r problemau arogleuon parhaus yn safle tirlenwi Withyhedge wedi'u bodloni, wythnos ar ôl cyhoeddi camau gorfodi pellach ar 18 Ebrill. 

Caiff hyn ei fonitro'n ofalus gan CNC i sicrhau bod y gweithredwr yn cydymffurfio â'r holl gamau a nodir yn yr Hysbysiad erbyn 14 Mai.

Ystyriwyd ei bod yn briodol aros nes bod y gweithredwr wedi gwneud gwaith lliniaru i gydymffurfio â'r gofynion gorfodi a gyflwynwyd gan CNC cyn ystyried y camau ychwanegol hyn.

I'r perwyl hwnnw, ar 26 Ebrill 2024, cyflwynodd y Cyngor lythyr hawliad i RML a'u gwahodd i roi ymrwymiadau sydd wedi’u rhwymo yn y gyfraith i leihau'r arogl sy’n achosi niwsans neu wynebu achos cyfreithiol. Gofynnodd y Cyngor hefyd iddynt ddatgelu dogfennau sy'n berthnasol i'r achos, gan gynnwys cofnodion o wastraff y daethpwyd ag i mewn i’r safle tirlenwi neu a dynnwyd allan ohono.

Mae'r Cyngor wedi rhoi tan 14 Mai 2024 i RML i ymateb i'w lythyr hawlio. Mae hyn yn cyd-fynd â'r dyddiad cau presennol a osodwyd gan CNC o dan ei hysbysiad gorfodi.

Prif Weithredwr Will Bramble: "Rydym yn hynod siomedig nad yw RML wedi cyflawni'r camau angenrheidiol i atal yr arogleuon cwbl annerbyniol o'r safle.

"Rydym yn llwyr gefnogi'r camau gorfodi ychwanegol sy'n cael eu cymryd gan CNC ac yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i wneud popeth o fewn ein gallu i gywiro'r sefyllfa.

"Mae ein bwriad i ofyn i'r Llys am waharddeb sy'n ei gwneud yn ofynnol i RML atal yr arogl sy’n achosi niwsans sy'n dod o'r safle tirlenwi, yn rhan arall o'n dull cydweithredol. Mae'r arogl o Withyhedge yn cael effaith fawr ar drigolion ac ymwelwyr. Mae'r sefyllfa hon wedi para’n rhy hir ac mae'n annerbyniol."