Llwyddiant Her Hinsawdd Cymru ar gyfer ysgolion yng ngogledd a de Sir Benfro
Climate Challenge Cymru success for north and south Pembrokeshire schools
Mae disgyblion yng ngogledd a de Sir Benfro wedi cael eu llongyfarch am eu cyflwyniadau Her Hinsawdd Cymru.
Cyflwynodd aelodau o Glwb Eco Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside her Cerdded ac Olwynio mewn gwasanaeth cyn mesur a chofnodi nifer y teithiau nad oeddent yn cael eu gwneud mewn car i’r ysgol.
Dangosodd eu hymchwil a’u tystiolaeth y gallai mwy o ddisgyblion gerdded i’r ysgol, felly gwnaethant fideo yn amlinellu buddion cerdded i’r ysgol, gan amlygu llwybrau diogel yn ogystal ag effaith injans yn segura yn y maes parcio ar yr amgylchedd.
O ganlyniad i hyn, fe enillon nhw’r wobr gyntaf yng nghategori Sustrans yn seremoni gwobrau Her Hinsawdd Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar, lle derbyniodd disgyblion fedalau a thystysgrifau – a dau sgwter i’r ysgol.
Dywedodd y pennaeth, Peter Jones: "Rydym ni’n falch iawn o gyflawniad ein pwyllgor Eco a’n clwb Eco. Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i annog cymuned yr ysgol gyfan i gymryd rhan a theithio’n llesol i’r ysgol.
“Fe wnaethon nhw lwyr fwynhau gweithio ar y prosiect a’u trip i Gaerdydd i dderbyn y wobr gan AS Eluned Morgan a chynrychiolwyr Sustrans. Rydym ni’n ddiolchgar am y cymorth a gafodd y disgyblion gan Mrs Theresa Williams, swyddog gweinyddol ein hysgol, sy’n arwain ein pwyllgor a’n clwb ECO."
Yn Ysgol Gynradd Gatholig yr Enw Sanctaidd yn Abergwaun, enillodd disgyblion yn eu categori am eu hymchwil i forwellt a’i rôl mewn helpu i oresgyn newid hinsawdd a gwella ecosystemau morol.
Creodd Tîm Eco’r ysgol gyflwyniad i ledaenu ymwybyddiaeth ymhlith eu cyfoedion am bwysigrwydd morwellt, a chynnwys cynefin morwellt Minecraft ynghyd â gêm a grëwyd i alluogi plant o bob oedran i ddod i wybod mwy am ei rôl.
I gyrraedd cynulleidfa ehangach, dyluniwyd gwefan gan y tîm o chwech i rannu eu hymchwil, eu fideos a’r gêm. Ychwanegwyd hyn at wefan yr ysgol a gall unrhyw un gael mynediad ati.
Roeddent hefyd wrth eu bodd â’u trip i’r Pierhead ar gyfer cyflwyno’r wobr.
Dywedodd Nichola Thomas, athrawes Blwyddyn 5 a 6: "Fel ysgol, rydym ni’n hynod falch o’n disgyblion a’u hymroddiad i wella ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol trwy eu gwaith ar brosiect Her Hinsawdd Cymru.
“Cynhaliodd y disgyblion ymchwil fanwl ac annibynnol ar forwellt a rhannu eu canfyddiadau mewn ffyrdd arloesol gan ddefnyddio technoleg i ymgysylltu â chynulleidfa iau, a’i hysbysu."
“Mae hyn yn gyflawniad ardderchog, ac rydym ni wrth ein bodd fod gwaith caled y disgyblion wedi cael ei gydnabod fel hyn,” ychwanegodd y pennaeth, Abigail Davies.