Lots of people at Glan-Yr-Afon opening

Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd nawr ar agor

Haverfordwest Public Transport Interchange now open

Rhannu:

Agorodd hwb trafnidiaeth diweddaraf Sir Benfro, Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Glan yr Afon, yn swyddogol ddydd Gwener (18 Medi), gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn y broses o adfywio Hwlffordd.

Mae'r cyfleuster newydd, sy’n cynnwys gorsaf fysiau fodern a maes parcio aml-lawr eang, wedi'i gynllunio i'w gwneud hi'n haws i drigolion ac ymwelwyr gyrraedd y dref sirol a chysylltu â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ac opsiynau teithio oddi yno.

Wedi'i datblygu gan Gyngor Sir Penfro, mae'r gyfnewidfa yn cynnwys parcio am awr am ddim, mannau parcio llydan, ardal aros wedi'i huwchraddio, toiledau cyhoeddus gan gynnwys cyfleuster Changing Places, a seilwaith gwefru cerbydau trydan pwrpasol.

Hwest PTI

Mae'r prosiect wedi cael ei gefnogi gan £16.894 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, ochr yn ochr â £1.987 miliwn o gyllid cyfatebol y Cyngor Sir. Cyfrannodd £1.2 miliwn arall o'r rhaglen Trawsnewid Trefi at welliannau i’r amgylchedd cyhoeddus a gwaith i Bont Cysylltedd Prendergast.

Mae'r cyfleuster newydd, a adeiladwyd gan Keir, yn darparu seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus llawer gwell ac mae'n rhan bwysig o'r rhaglen fuddsoddi ehangach yn Hwlffordd.

Bus in PTI

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Bwriad y prosiect hwn yw ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i ymweld â chanol tref Hwlffordd.

“Mae'n rhan bwysig iawn o'r uwchgynllun adfywio ehangach ar gyfer Hwlffordd. Ynghyd â'n buddsoddiadau sylweddol eraill yn y dref, rydym yn dod â bywiogrwydd a hyfywedd yn ôl i Hwlffordd, gan greu'r amodau cywir ar gyfer buddsoddiad a thwf.

“Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi rhagor o denantiaethau newydd yng nghanol y dref cyn bo hir, wedi'u sicrhau yn sgil y buddsoddiadau hyn, a fydd yn ysgogi rhagor o ymwelwyr i ymweld â chanol y dref.”

Cllr Miller Hwest PTI

Dywedodd Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol y gorllewin a Chymru Kier Construction: "Mae'r gyfnewidfa newydd yn creu porth modern, croesawgar i Hwlffordd, gan wella cysylltedd, gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i drigolion ac ymwelwyr, ac yn cefnogi’r broses barhaus o adfywio Hwlffordd.

“Ni fyddai'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Benfro, a'n cadwyn gyflenwi ragorol. Rydym yn hynod falch o fod wedi cyflawni'r prosiect hwn, gwaddol barhaol i Hwlffordd a'r rhanbarth ehangach.”

Mae'r adeilad yn cynnwys 230 o bentyrrau CFA, 620 tunnell o ddur strwythurol, 2,000 metr ciwbig o goncrit, 3000m2 o balmentydd maes cyhoeddus a mwy na 900 o esgyll cladin.

Ychwanegodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Tom Tudor: "Fel Cynghorydd Sir Ward y Castell, rwy'n falch o weld y prosiect yn cael ei gwblhau. Bydd y gyfnewidfa newydd yn rhan bwysig o gefnogi Hwlffordd, tref sirol Sir Benfro, a'i helpu i barhau i ffynnu er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'r dyfodol yn gadarnhaol a chyffrous iawn i Hwlffordd."