Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd yn agor yr wythnos hon
Haverfordwest Public Transport Interchange opening this week
Bydd Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd sbon Glan yr Afon/Hwlffordd - sy'n cynnwys parcio am ddim am awr - yn agor ddydd Gwener o 2pm.
Mae’r prosiect gan Gyngor Sir Penfro wedi creu canolfan trafnidiaeth fodern gyda gorsaf fysiau newydd wych a maes parcio aml-lawr eang a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl ymweld â Hwlffordd a defnyddio bysiau ac opsiynau trafnidiaeth eraill.
Mae'r cyfleuster yn cynnwys mannau llydan, ystafell aros a thoiledau cyhoeddus wedi’u huwchraddio, gan gynnwys toiled Changing Places, ynghyd â seilwaith gwefru cerbydau trydan.
Mae wedi cael ei gefnogi gan £16.894 miliwn o gyllid grant Llywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol a £1.987 miliwn o gyllid cyfatebol Cyngor Sir Penfro. Mae £1.2 miliwn arall o gyllid Trawsnewid Trefi wedi cefnogi gwelliannau i faes cyhoeddus y Gyfnewidfa a Phont Cysylltedd Prendergast.
Mae diogelwch a gwarchod yn elfennau allweddol o'r Gyfnewidfa, felly mae dwsinau o gamerâu teledu cylch cyfyng o ansawdd uchel yn cwmpasu pob ardal, goleuadau llawer gwell a gofalwr wedi'i leoli ar y safle.
Mae'r gyfnewidfa, a adeiladwyd gan Kier Construction, wedi'i datblygu i ddarparu cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus llawer gwell ac mae'n rhan bwysig o adfywio'r Dref Sirol.
Bydd SCCH Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn defnyddio'r safle fel canolfan gyda swyddfa bwrpasol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â llawer mwy na chreu gorsaf fysiau a maes parcio.
“Y bwriad yw ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i ymweld â Hwlffordd, cefnogi busnesau lleol a pharhau i adfywio ein tref sirol.
“Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn Hwlffordd, gan weddnewid adeiladau nad oedd yn cael eu defnyddio’n ddigonol, gwella mannau cyhoeddus a buddsoddi mewn seilwaith. Mae prosiectau fel hyn yn creu'r sylfeini ar gyfer twf a buddsoddiad preifat yn y dyfodol.
“Mae'r agor y gyfnewidfa yn gam pwysig arall ymlaen ac yn dangos hyder yn nyfodol Hwlffordd."
Bydd gwasanaethau bws yn dechrau defnyddio Glan yr Afon o ddydd Llun, 21 Medi.
Bydd y maes parcio, gyda'i system adnabod platiau rhif sy’n ei gwneud yn hawdd i barcio a thalu, ar agor 24 awr y dydd gyda'r ffioedd canlynol:
1 awr - £0.00
2 awr - £2.00
4 awr - £3.00
10 awr - £3.50
24 awr - £4.50
Beiciau modur 24 awr - £1.00
Bydd Deiliaid Bathodyn Glas yn cael awr ychwanegol o barcio am ddim trwy sganio eu cod bar Bathodyn Glas yn y derfynfa dalu.
Gellir talu am barcio yn gyflym ac yn hawdd â cherdyn - ni dderbynnir taliadau arian parod - (cerdyn neu ddigyswllt yn unig).
Mae'r maes parcio hwn yn un talu wrth ddychwelyd - parciwch a defnyddiwch y derfynfa dalu pan fyddwch yn dychwelyd i'ch car trwy nodi manylion eich cerbyd, bydd y peiriant a'r rhwystr yn codi wrth adael.