Cyhoeddi cwmni lletygarwch blaenllaw Loungers ar gyfer datblygiad Glan Cei'r Gorllewin
Leading hospitality company Loungers announced for Western Quayside development
Mae Cyngor Sir Penfro a Loungers, un o gwmnïau lletygarwch mwyaf blaenllaw'r DU, yn falch o gyhoeddi eu bod wedi cytuno ar delerau i Loungers fod yn denant cyntaf datblygiad gwych Glan Cei'r Gorllewin yn Hwlffordd.
Mae Loungers yn bwriadu meddiannu llawr gwaelod yr adeilad sy'n elfen bwysig o gynllun adfywio hirdymor y Cyngor ar gyfer y Dref Sirol.
Sefydlwyd Loungers yn 2002 ac mae'n enwog am ei awyrgylch croesawgar, addas i deuluoedd, addurniadau ecsentrig ac ysblennydd, a bwyd a diod gwych.
Mae'r cwmni'n rhedeg bariau caffi Lolfa ledled y DU - gan gynnwys Lolfa Cofio yn Neuadd y Dref, Caerfyrddin - gan gyfuno elfennau o ddiwylliant siopau coffi, y dafarn Brydeinig a bwyta allan.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod Cabinet ar faterion Lle, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Rwy'n falch iawn o fod mewn sefyllfa i gyhoeddi'r denantiaeth gyntaf ar gyfer Glan Cei'r Gorllewin. Mae Loungers yn rhannu ein huchelgais a'n potensial ar gyfer datblygiad y Glan Cei’r Gorllewin yng nghanol Hwlffordd.
"Bydd Glan Cei’r Gorllewin yn chwarae rhan allweddol wrth wella nifer yr ymwelwyr a'r bywiogrwydd yn Hwlffordd ac mae Loungers yn cyd-fynd yn berffaith â'r weledigaeth honno.
"Rhan bwysig o ethos Loungers yw elfen gymunedol ei bariau caffi cymdogaeth a'i hymrwymiad i weithio gyda grwpiau, elusennau, sefydliadau a busnesau lleol ac edrychwn ymlaen at weld hynny'n parhau yn Hwlffordd.
"Fel Cyngor, rydym wedi bod yn glir na fyddwn yn eistedd yn ôl ac yn gadael i ganol ein trefi ddirywio ac mae hwn yn gam pwysig ymlaen.
"Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi rhagor o denantiaid maes o law ac wrth gwrs i agor Glan Cei'r Gorllewin yn ddiweddarach yn 2024."
Dywedodd Gemma Irwin, Rheolwr Cymunedol Loungers: "Rydym yn edrych ymlaen at agor ein Lolfa yn Hwlffordd yn ddiweddarach eleni. Rydym yn gobeithio y bydd ein hamgylchedd addas i deuluoedd a bwyd a diod o'r radd flaenaf yn boblogaidd ymhlith trigolion lleol.
"Rydyn ni'n angerddol am integreiddio yn wirioneddol i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu felly rydyn ni'n edrych ymlaen at gwrdd â phawb a bod wrth wraidd sîn bwyd a diod Hwlffordd.
"Byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sy'n chwilio am le i gynnal digwyddiadau neu grwpiau pan fyddwn wedi agor, i weld beth allwn ni ei wneud i helpu."
Dywedodd y Cynghorydd Thomas Tudor, yr Aelod lleol: "Fel Cynghorydd Sir Ward y Castell, rwy'n croesawu'r newyddion bod cadwyn bwytai Loungers yn un o'r tenantiaid fydd yn dod i ddatblygiad Glan Cei’r Gorllewin.
"Mae hyn yn newyddion gwirioneddol wych i Hwlffordd, ac rwy'n optimistaidd iawn ar am ddatblygiad ein tref hyfryd yn y dyfodol, gan ei galluogi i ddod yn lleoliad masnachol a phreswyl ffyniannus o ddewis gyda chymuned gadarn a bywiog, gan greu cyrchfan unigryw ac ymdeimlad o le a fydd yn parhau i ddenu pobl, ac yn y pen draw yn cyfrannu at gynaliadwyedd ehangach, llwyddiant economaidd a swyddogaeth Hwlffordd fel Tref Sirol Sir Benfro."