English icon English
A Ballot Box on a table with the words polling station written in English and Welsh.

Cyhoeddi ymgeiswyr ar gyfer Is-etholiad Llanisan-yn-Rhos

Candidates for St Ishmaels By-Election published

Bydd pum ymgeisydd yn gofyn am bleidleisiau yn isetholiad Llanisan-yn-Rhos, a alwyd yn dilyn marwolaeth drist y Cynghorydd Sir Reg Owens.

Mae'r enwebiadau wedi cau ac mae’r Datganiad am y Sawl a Enwebwyd wedi’i gyhoeddi.

Y rhai sy'n sefyll etholiad yw: Claire Victoria George (Plaid Geidwadol Cymru); Janie Harwood (Annibynnol); Richard Leighton Jenkins; Bob Simister (Annibynnol) a Terry Worsley.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 16 Ebrill.

Mae Ward Cyngor Sir Llanisan-yn-Rhos yn cynnwys ardaloedd cyfagos Dale, Herbranston, Marloes, Sain Ffraid, Tiers Cross a Chastell Gwalchmai.

Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 12 hanner nos ar 27 Mawrth.

Rhaid i newidiadau i'r trefniadau presennol ar gyfer pleidleisio drwy'r post gan etholwyr neu eu dirprwyon sydd eisoes â phleidlais bost cyfnod amhenodol neu gyfnod penodol, neu geisiadau pleidlais bost newydd (yn agor mewn tab newydd), gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm fan bellaf ar 28 Mawrth.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm fan bellaf ar 8 Ebrill.

Dylai trigolion nodi y bydd yr isetholiad hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth, nid ar ddydd Iau fel sy'n arferol ar gyfer y mwyafrif o etholiadau eraill.

Bydd Cardiau Pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad a fydd yn nodi pa orsaf bleidleisio i bleidleisio ynddi.