Cyhoeddi ymgeiswyr isetholiad Cyngor Sir Hwlffordd Prendergast
Haverfordwest Prendergast County Council by-election candidates published
Mae'r ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i'r Cyngor Sir yn ward Prendergast Hwlffordd wedi cael eu cyhoeddi.
Mae'r enwebiadau wedi cau a chyhoeddwyd y Datganiad o Bobl a Enwebwyd.
Y rhai hynny sy'n sefyll etholiad yw:
Kaleb Jenkins, Democratiaid Rhyddfrydol
Mike Mathias, Ceidwadwyr
James Purchase, Y Blaid Werdd
Scott Thorley, Reform
Alison Tudor, Llafur
Alun Wills, Annibynnol
Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 11 Chwefror.
Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn hanner nos ar 24 Ionawr.
Rhaid i newidiadau i'r trefniadau presennol ar gyfer pleidleisio drwy'r post gan etholwyr neu eu dirprwyon sydd eisoes â phleidlais bost cyfnod amhenodol neu gyfnod penodol, neu geisiadau pleidlais bost newydd (yn agor mewn tab newydd), gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm fan bellaf ar 27 Ionawr.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm fan bellaf ar 3 Chwefror.
Mae'r datganiad llawn o unigolion a enwebwyd gan gynnwys enwau'r pleidiau llawn ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor.
Bydd Cardiau Pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad, bydd yr orsaf bleidleisio yn Archifdy Sir Benfro, nid Canolfan Ddydd Meadow Park fel yn y gorffennol.
Ni fydd angen prawf adnabod ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.