Cyhoeddi ymgeiswyr isetholiad Marchnad Doc Penfro
Pembroke Dock Market by-election candidates published
Cyhoeddwyd rhestr yr ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i Gyngor Sir Penfro yn ward Marchnad Doc Penfro.
Mae enwebiadau wedi cau ac mae'r Datganiad o Bersonau a Enwebwyd wedi'i gyhoeddi.
Y rhai sy'n sefyll i gael eu hethol yw:
Paul Haywood Dowson – Annibynnol
Claire Francis-Boswell – Annibynnol
Lee Herring – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Ryan Morgan – Reform UK
Chloe Louise Richards – Plaid Cymru
Jamie Street – Ceidwadwyr Cymreig
Hayley Wood – Annibynnol
Cynhelir yr etholiad ddydd Iau, 9 Gorffennaf.
Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn hanner nos ar 23 Mehefin.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am bleidleisiau post (yn agor mewn tab newydd) cyn 5pm 24 Mehefin.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm 1 Gorffennaf fan bellaf.
Mae'r datganiad llawn o'r personau a enwebwyd, gan gynnwys enwau llawn y pleidiau, ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor.
Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad. Caiff pobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi cofrestru a gwladolion tramor bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Ni fydd angen manylion adnabod ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.