scolton manor

Cyllid grant i drawsnewid profiad ymwelwyr ym Maenordy Scolton

Grant funding to transform visitor experience at Scolton Manor House

Rhannu:

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Sir Penfro wedi sicrhau £191,475 mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatgelu straeon newydd, gofodau newydd a ffyrdd newydd i ymwelwyr ymgysylltu ag un o atyniadau treftadaeth mwyaf gwerthfawr Sir Benfro.

Bydd y cynlluniau i drawsnewid profiad ymwelwyr ym Maenordy Scolton yn cael eu cefnogi gan gyfraniad o 10% ychwanegol o gyllid cyfatebol a ddyrannwyd i waith cynllunio a rhaglennu cyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Amgueddfa.

Bydd y prosiect dwy flynedd o hyd o’r enw Tŷ Scolton: Mae’n Fwy ar y Tu Mewn, yn moderneiddio ac yn ailddychmygu’r plasty hanesyddol, gan greu profiad mwy croesawgar, ymgollol a hygyrch i ymwelwyr o bob oed.

Bydd y gwaith ar y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2026. Bydd y cam cyntaf, sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2027, yn darparu’r gofod croeso newydd a’r dehongliad digidol, yn barod ar gyfer ymwelwyr tymor twristiaeth 2027. Bydd yr ail gam, sy’n canolbwyntio ar ardaloedd y gweision a’r seler, yn mynd rhagddo rhwng mis Ebrill 2027 a mis Mawrth 2028.

Er bod mannau awyr agored y parc wedi elwa o fuddsoddiad helaeth, nododd y Gwasanaeth Amgueddfeydd mai’r plasty ei hun oedd y flaenoriaeth nesaf o ran datblygiad, gyda llawer o’r arddangosfeydd presennol yn dyddio’n ôl i’r 1990au.

Bydd y prosiect newydd yn cyflwyno gofod croeso a manwerthu pwrpasol yng nghanol y tŷ, gan greu canolfan ymwelwyr ddiddorol wrth gefnogi cyflenwyr lleol a’r economi gylchol leol.

Bydd ymwelwyr hefyd yn elwa o ddehongliad sgrin gyffwrdd ddigidol newydd a fydd yn dod â’r bobl, y gwrthrychau a’r straeon sydd wedi llunio hanes rhyfeddol Scolton yn fyw.

Un elfen bwysig o’r prosiect yw’r gwaith ailddatblygu yn llety’r gweision a’r seler, a fydd yn agor mynediad i ardaloedd nad oedd yn cael eu defnyddio’n ddigonol, a’u trawsnewid yn fannau ymwelwyr rhyngweithiol cwbl hygyrch.

Mae staff yr amgueddfa yn disgrifio’r tŷ fel “peiriant amser treftadaeth”, am fod ymwelwyr yn gallu camu drwy’r drws ffrynt a theithio drwy genedlaethau’r gorffennol yn Sir Benfro.

Dyfarnwyd y grant gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2026 fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i wneud diwylliant a threftadaeth yn ganolog i fywyd yng Nghymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Drwy fuddsoddi ym Maenordy Scolton, bydd y prosiect nid yn unig yn gwarchod ac yn dathlu hanes cyfoethog Sir Benfro, ond hefyd yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ystâd, gan gefnogi cynaliadwyedd un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd y sir yn yr hirdymor.

“Pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau yn 2028, gall ymwelwyr edrych ymlaen at ddarganfod bod llawer mwy i Dŷ Scolton na’r hyn sy’n amlwg ar yr olwg gyntaf. O ystafelloedd croeso Fictoraidd cywrain i ystafelloedd gweision cudd i lawr y grisiau, mae’r profiad yn mynd i fod yn datgelu tŷ sydd, yn llythrennol, yn fwy ar y tu mewn.”

Dywedodd Heledd Fychan, Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon: "Mae amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yn ganolog i’n cymunedau ledled Cymru. Dyma fannau lle mae pobl yn cysylltu â’n diwylliant a’n hanes, lle mae plant yn darganfod eu cariad at ddarllen, a lle mae pobl hŷn yn rhannu eu hatgofion. Maent yn fannau lle y dylai pawb deimlo’n gartrefol ynddynt. Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan amddiffyn casgliadau hanfodol, gwella mynediad a sicrhau bod ein gofodau diwylliannol yn addas ar gyfer y dyfodol.”