English icon English
Pembrokeshire County Council

Cyllideb 2025-26 wedi’i chymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro

Budget for 2025-26 approved by Pembrokeshire County Council

Mae’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, 2025-26 wedi’i chymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro.

Pleidleisiodd cynghorwyr ar y gyllideb arfaethedig, gan gynnwys cynnydd yn y dreth gyngor o 9.35%, neu £2.71 yr wythnos ar gyfer eiddo Band D, mewn cyfarfod heddiw (dydd Iau, 6 Mawrth).

Mae’r flwyddyn ariannol sydd i ddod yn cynnwys bwlch cyllido o £27 miliwn, a fydd yn cael ei ddiwallu drwy gyfuniad o arbedion yn y gyllideb, cynnydd yn y dreth gyngor a’r defnydd o bremiymau’r dreth gyngor. 

Y pwysau cost mwyaf sylweddol o ran cyllideb 2025-26 yw’r galw am ofal cymdeithasol a chymhlethdod y gofal hwnnw ar draws y gwasanaethau i oedolion a phlant, gyda chyfanswm cynnydd rhagamcanol mewn pwysau gwariant o £25.6m sy’n cynrychioli 58.9% o gyfanswm y pwysau ar wasanaethau’r cyngor ar gyfer 2025-26.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd, y Cynghorydd Joshua Beynon: “Rwyf am roi sicrwydd i drigolion bod y gyllideb hon wedi’i llunio gyda’ch anghenion a’ch blaenoriaethau chi fel yr ystyriaeth bwysicaf.

“Mae Sir Benfro, fel pob awdurdod lleol, yn wynebu heriau sylweddol a galwadau cynyddol ar feysydd gwasanaeth allweddol. Ond rydym yn benderfynol o’u llywio mewn ffordd sy’n diogelu ein cymunedau ac yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ar gyfer Sir Benfro.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey: "Mae pennu cyllideb wedi’i mantoli yn ofyniad cyfreithiol a chyfrifoldeb y Cyngor ydyw, nid y Cabinet. Pan gefais fy ethol i rôl yr Arweinydd fis Mai diwethaf, cyfeiriais at y ffaith fy mod yn dymuno adeiladu cymaint o gonsensws â phosibl yn y Siambr.

“Mae'r gyllideb hon yn dangos y gallwn ni, drwy gydweithio i nodi nodau ac amcanion cyffredin, sicrhau canlyniad y cytunwyd arno.

“Fel y gwyddom yn rhy dda, mae'r pwysau ar holl wasanaethau llywodraeth leol Cymru yn aruthrol.

“O ystyried yr heriau yr ydym wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diweddar ac yr ydym yn parhau i'w hwynebu, bydd y gyllideb hon yn ein helpu i osgoi toriadau dinistriol ac amhoblogaidd iawn i wasanaethau. Dyma'r unig ffordd y gallwn ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol y mae ein cymuned yn dibynnu arnyn nhw, wrth osod sylfaen ar gyfer dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i Sir Benfro.

Wrth gymeradwyo'r gyllideb hon, rydym wedi ceisio dod o hyd i gydbwysedd gofalus rhwng diogelu ein dyfodol a chydnabod y pwysau costau byw gwirioneddol y mae teuluoedd yn Sir Benfro yn eu hwynebu bob dydd.

“Fe ddes i yn Gynghorydd i wella bywydau pobl, i helpu'r rhai mewn angen ac i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd.

“Bydd y rhai hynny ohonom sy'n cynrychioli wardiau sydd â lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol yn gwybod yn rhy dda faint mae ein trigolion yn dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. Bydd y gyllideb hon yn cefnogi'r bobl yn ein cymunedau sydd angen ein gwasanaethau fwyaf, p'un a yw ein plant ysgol, plant agored i niwed neu ein trigolion oedrannus.

“Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Tîm Cyllid a'r Aelod Cabinet dros Gyllid am eu holl waith caled dros fisoedd lawer ar gynigion y gyllideb, i sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau.”

Ychwanegodd y Cyhorydd Huw Murphy: “Wrth ddod yn arweinydd y Grŵp Annibynnol a'r Cynghorydd Anji Tinley yn cael ei hethol yn Ddirprwy, gwnaethom ryddhau datganiad y byddem fel Grŵp o Gynghorwyr Annibynnol yn gyfeillion beirniadol i'r Weinyddiaeth, ac na fyddem ychwaith yn "gwrthwynebu dim ond er mwyn gwrthwynebu" a gellir gweld tystiolaeth o hynny’n glir dros y 10 mis diwethaf yn y Cyngor. 

Fe wnaethom hefyd ddweud y byddai'r Grŵp Annibynnol yn herio penderfyniadau a allai gael effaith negyddol ar drigolion a, lle bo hynny'n bosibl, cyflwyno opsiynau amgen. Mae'r broses o bennu’r gyllideb ddiweddar yn dyst i uniondeb y Grŵp Annibynnol, lle ar 20 Chwefror, fe wnaethom atal cynnydd posibl o 9.85% yn y Dreth Gyngor trwy ohirio cyfarfod o'r Cyngor i aros am setliad ariannol terfynol gan LlC.

Yna, fe wnaeth y Grŵp Annibynnol baratoi a chyflwyno cyllideb amgen gan gynnig Treth Gyngor is o 9.35% ynghyd â llai o doriadau mewn gwasanaethau, a basiwyd heddiw (yn y Cyngor Llawn). Mae penderfyniad y Cabinet o ran cefnogi'r gyllideb amgen yn hytrach na'i gwrthwynebu i'w chroesawu lle roedd mwyafrif (helaeth) y Cynghorwyr yn derbyn yr angen i gyflawni eu dyletswyddau statudol lle rhoddwyd teyrngarwch gwleidyddol o'r neilltu er lles ein trigolion fel gwleidyddiaeth flaengar ac aeddfed ar bwnc anodd iawn, sef y Dreth Gyngor.

Nid oes croeso i unrhyw gynnydd mewn treth ond heddiw cafwyd cydbwysedd o gynnig y Dreth Gyngor isaf gan hefyd osgoi toriadau sylweddol i wasanaethau, lle mai'r rhai mwyaf agored i niwed fyddai'r cyntaf i ddioddef. Wrth symud ymlaen mae llawer o waith i'w wneud yn Sir Benfro ac ymhellach i ffwrdd yng Nghaerdydd a Llundain i sicrhau cyllid digonol i ddarparu gwasanaethau y mae trigolion Sir Benfro yn eu haeddu. Fel Grŵp o Gynghorwyr Annibynnol, byddwn yn parhau i weithio'n galed dros holl drigolion Sir Benfro i nodi eu pryderon a dwyn y Weinyddiaeth i gyfrif.”