English icon English
Dale cropped

Cymunedau’n arwain y ffordd i gael band eang gwell

Communities taking the lead to get better broadband

Mae pobl leol yn Dale, Sir Benfro wedi bod yn llwyddiannus yn defnyddio cynllun talebau Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU i gysylltu'r pentref â'r rhyngrwyd cyflym iawn.

[Sir Benfro, Hydref 2024] Mae Dale, cymuned fach wledig ar arfordir Sir Benfro wedi dioddef cysylltedd rhyngrwyd gwael ers amser maith gyda thrigolion yn cael ychydig iawn o fynediad neu dim mynediad o gwbl i'r rhyngrwyd ar gyfer gwaith, cyfathrebu ac adloniant.  Gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau a thasgau o ddydd i ddydd yn symud ar-lein, roedd mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd yn cael effaith andwyol ar drigolion a oedd yn cael profiad uniongyrchol o'r rhaniad digidol.

Fodd bynnag, ar ôl cael gwybod am brosiect a ariennir gan Lywodraeth y DU gan Hyrwyddwyr Digidol Cyngor Sir Penfro, mae hyn bellach wedi newid diolch byth ac mae rhan helaeth o Dale bellach wedi cysylltu â band eang gigabit sy'n gwasanaethu'r pentref cyfan.

Mae Cynllun Talebau Band Eang Gigabit yn rhan o raglen Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU, sy’n canolbwyntio ar helpu cymunedau anodd eu cyrraedd i uwchraddio eu cysylltiad band eang. Gall cartrefi a busnesau cymwys wneud cais am hyd at £4,500 i dalu costau cysylltiad sy’n gallu cyflymder gigabit.

Gyda'r cynllun talebau, mae trigolion a busnesau mewn ardaloedd cymwys wedi gallu gwneud cais am gymorth ariannol i dalu'r costau o osod band eang gigabit. 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Mae cysylltu ein cymunedau gwledig yn gam sylweddol yn seilwaith digidol Sir Benfro.

“Ynghyd â'n partneriaid, mae'r rhaglen waith helaeth hon wedi trawsnewid cysylltedd ffeibr llawn a bydd yn diogelu'r rhwydwaith yn ein sir i'r dyfodol. Bydd ymrwymiad yr awdurdod hwn yn sicrhau na fydd ein cymunedau'n cael eu gadael heb gysylltiad.

“Mae mwy i'w wneud, ond diolch i ddull rhagweithiol y Cyngor Sir, bydd ffeibr llawn yn cael ei gynnig i fwy a mwy o gymunedau drwy'r amser.”

Mae'r manteision o gael gwell cyswllt mewn ardaloedd gwledig yn ddi-gwestiwn gyda'r canlyniadau eisoes i'w gweld yn Dale.  O helpu busnesau lleol i wella mynediad at wasanaethau digidol, mae cael mynediad rhyngrwyd dibynadwy a chyflym wrth wraidd yr ateb o ran cysylltedd ar gyfer y pentref yn Sir Benfro.

 

Cael Mynediad i Fand Eang Gwell Dael - Sir Benfro