English icon English
Pembrokeshire County Council logo - Logo Cyngor Sir Penfro

Cyngor yn adnewyddu pwysau cyfreithiol yn erbyn RML

Council renews legal pressure against RML

Fel rhan o'n dull o fynd i'r afael â'r problemau arogleuon parhaus yn Withyhedge gyda CNC, mae Cyngor Sir Penfro yn bwrw ymlaen â'i her gyfreithiol yn erbyn RML.

Ar 26 Ebrill 2024, gofynnodd y Cyngor i RML roi ymrwymiad wedi’i rwymo mewn cyfraith i atal yr arogl sy’n dod o safleoedd tirlenwi Withyhedge. Pe bai’n gwrthod, roedd y Cyngor yn disgwyl i RML ddatgelu dogfennau, fel diffynnydd posibl mewn hawliad yn erbyn niwsans.

Gwrthododd RML roi ymrwymiad a darparu datgeliad. Felly, ar 20 Mai, gwnaeth y Cyngor gais am ddatgeliad cyn gweithredu yn Llys Sirol Hwlffordd. Bydd y Cyngor yn gofyn i'r Llys orfodi RML i drosglwyddo dogfennau, y mae'n credu sy'n bwysig i'w hawliad yn erbyn niwsans. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'r Llys gadarnhau dyddiad gwrandawiad yn fuan.

Yn ogystal â dilyn y llwybr cyfreithiol, mae ein tîm Diogelu'r Cyhoedd yn parhau i fonitro ansawdd aer ac yn gweithio ar y cyd â'n partneriaid i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Mae Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett wedi addo parhau i fynd i'r afael â'r mater parhaus yn Withyhedge fel prif flaenoriaeth i'r cyngor. Dywedodd: "Ein bwriad yw gofyn i'r Llys am waharddeb sy'n ei gwneud yn ofynnol i RML atal y niwsans arogl sy'n codi o'r safle tirlenwi. Er ein bod yn falch o benderfyniad y gweithredwyr i selio'r gell yn llwyr (cell wyth) sy’n achosi'r broblem, ac yn wirioneddol obeithiol y bydd hyn yn datrys y broblem, rydym yn parhau i bryderu am weithrediadau'r dyfodol ac ni allwn ganiatáu i'r sefyllfa hon ddigwydd eto.

"Rwy'n deall y rhwystredigaeth a'r gofid y mae'r trigolion sy'n byw ger safle Withybush wedi bod yn eu dioddef - ac mae'r arogl yn wirioneddol annerbyniol, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n ddiflino i ddod o hyd i ateb.

"Mae cynnal aer glân yn flaenoriaeth i'n cymuned - ac mae'r Awdurdod hwn, ynghyd â'n partneriaid - wedi ymrwymo i fonitro llygredd yn rhagweithiol, ac rydym yn gweithio'n agos gyda CNC a gweithredwr y safle i sicrhau eu bod yn cymryd camau i ddileu’r arogleuon ffiaidd o'r safle sy'n effeithio ar ein cymunedau.

"Mae ein gwaith monitro yn parhau a bydd yn cyd-fynd â gwaith cydweithwyr o CNC i gasglu gwybodaeth am lefelau ansawdd aer o safbwynt iechyd a niwsans - gan gynnwys darparu ymweliadau yn y bore a gyda'r nos. Ar ben hynny, ac mewn partneriaeth â CNC, mae cyfarpar monitro statig mwy datblygedig wedi'i gomisiynu a'i ddarparu ar gyfer ei ddefnyddio fis nesaf.

"Yn ogystal, hoffem weithio gyda chymaint o drigolion â phosibl ac yn eu hannog i roi gwybod am unrhyw bryderon am arogl sydd ganddynt - mae'r wybodaeth hon yn hanfodol i'n helpu i fynd i'r afael â'r mater yn effeithiol."