Cynllun i fywiogi canol trefi ar y ffordd i Hwlffordd
Plan to brighten up town centres heads to Haverfordwest
Mae’r Cynllun Peintio Strydlun, a lansiwyd yn ddiweddar, yn cael ei ymestyn o Aberdaugleddau i ganol tref Hwlffordd.
Mae perchnogion eiddo yn Stryd Charles, Aberdaugleddau, wedi gallu gwneud cais am grantiau i beintio tu allan eu heiddo, a bydd hyn ’nawr yn cael ei ehangu i gynnwys Stryd y Cei, Stryd y Bont a’r Stryd Fawr yn Hwlffordd.
Ariennir y cynllun gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac mae’n rhan o Raglen Gwella Strydoedd y Cyngor.
Bydd grantiau’n darparu 80 y cant o gyfanswm y gwariant cyfalaf ar un eiddo.
Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Tom Tudor: “A minnau’n Gynghorydd Sir ar gyfer Ward y Castell, rwy’n croesawu’r fenter hon sy’n cael ei chynnig gan Gyngor Sir Penfro, cynllun a fydd yn cefnogi perchnogion eiddo cymwys a thenantiaid i uwchraddio eu heiddo a chreu teimlad da yn y Dref Sirol.
“Gyda dyraniad grant mwyaf fesul eiddo o £4,999 wedi’i bennu, ac er mwyn i’r cynllun gael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2024, rwy’n annog pobl yn gryf i wneud cais cyn gynted â phosibl ar gyfer y cyfle gwych hwn.”
Dywedodd y Cyng. Paul Miller, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, fod y cynllun yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i adfywio Sir Benfro.
“Nod y cynllun hwn yw helpu canol trefi i ffynnu trwy wella golwg gyffredinol yr ardal amgylchynol – a hynny er mwyn hybu nifer yr ymwelwyr, cefnogi busnesau i greu swyddi newydd, a chryfhau’r cymysgedd o fusnesau.
“Rydym am gefnogi canol ein trefi ymhob ffordd bosibl, ac mae hyn yn enghraifft arall o’r cymorth sydd ar gael gennym,” meddai.
Bydd y gronfa’n cefnogi perchnogion eiddo cymwys a thenantiaid/lesddeiliaid sydd wedi cael cydsyniad ysgrifenedig gan berchennog yr eiddo. Gall y grantiau gael eu defnyddio i brynu deunyddiau (paent preimio, isbaent gwaith maen, a phaent gwaith maen allanol) neu tuag at y gost o ddefnyddio contractwr.
Y dyraniad grant mwyaf fesul eiddo fydd £4,999. Rhaid i’r cynllun gael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2024.
I gael gwybodaeth lawn am y Cynllun Paentio Strydlun, gan gynnwys manylion am gymhwysedd i gael grant a dolen i wneud cais am y cynllun, ewch i
- dudalen Rhaglen Gwella Strydoedd y Cyngor ar ei wefan
- neu anfonwch neges e-bost i spfstreetenhancement@pembrokeshire.gov.uk