English icon English
Pension credit support / cymorth credyd Pensiwn

Cynllun peilot yn datgelu budd-daliadau heb eu hawlio i nifer o drigolion Sir Benfro

Pilot scheme uncovering unclaimed benefits for many Pembrokeshire residents

Mae trigolion ledled Sir Benfro ar fin elwa o gymorth ychwanegol yn dilyn lansio menter tracio teuluoedd incwm isel (offeryn tracio LIFT).

Nod y cynllun peilot yw helpu trigolion lleol i wneud y gorau o incwm aelwydydd drwy ddull wedi’i dargedu, gan sicrhau bod y rhai sy’n gymwys yn hawlio eu holl hawliau’n llawn.

Mae LIFT yn offeryn a weinyddir gan y cwmni dadansoddeg Policy in Practice. Bydd y platfform meddalwedd yn dwyn ynghyd setiau data lluosog gan ddarparu agwedd fwy holistaidd ar gyfer aelwydydd, a bydd yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr a fydd yn helpu i wneud y gorau o incwm preswylwyr a lleihau eu costau.

Mae’r cynllun peilot cychwynnol 12 mis yn ceisio cyfrannu at y dasg o fynd i’r afael â’r budd-daliadau gwerth £68 miliwn heb eu hawlio yn Sir Benfro bob blwyddyn, yn ôl ffigurau amcangyfrifedig Policy in Practice.

Mae hyn yn cynnwys nifer fawr o bobl nad ydynt yn hawlio taliadau rheolaidd fel Budd-dal Plant, Credyd Pensiwn a Lwfans Gofalwyr, er enghraifft.

Drwy LIFT, bydd Cyngor Sir Penfro yn gallu nodi’r rheini sy’n gymwys i gael cymorth ond nad ydynt yn hawlio eu holl hawliau ledled Sir Benfro. Drwy’r ymgyrchoedd, os caiff unigolyn ei nodi fel rhywun sy’n gymwys i gael cymorth ond nad yw’n ei gael, anfonir llythyr ato yn manylu ar y cymorth y mae’n ei golli a chyngor ar sut i wneud hawliad.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni i fod yn rhan o’r broses hon, bydd pob preswylydd ar ein cronfa ddata yn cael ei gynnwys yn awtomatig.

Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn awgrymu bod tua £117 miliwn o arian Credyd Pensiwn heb ei hawlio bob blwyddyn yng Nghymru yn unig. Mae mewnwelediadau fel hyn wedi ein helpu i ddewis ein hymgyrch gychwynnol, a fydd yn rhedeg dros yr haf, a fydd yn canolbwyntio ar Gredyd Pensiwn.

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal pwysig i’r rheini sy’n gymwys. Yn ogystal â chael taliad uniongyrchol, mae hawlio’r hawlogaeth hon hefyd yn golygu y gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y canlynol:

  • Gwneud cais am drwydded deledu am ddim, os ydych chi’n 75 oed neu’n hŷn.
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer talu rhent (os ydych chi’n cael credyd gwarant fel rhan o’r Credyd Pensiwn)
  • Cymorth ychwanegol ar gyfer talu’r dreth gyngor (os ydych chi’n cael credyd gwarant fel rhan o’r Credyd Pensiwn)
  • Cael taliadau tywydd oer
  • Cael Taliad Tanwydd Gaeaf
  • Cael help i dalu costau’n ymwneud â gwasanaethau iechyd os ydych chi’n cael credyd gwarant fel rhan o’r Credyd Pensiwn. Gall hyn gynnwys pethau fel cymorth ar gyfer triniaeth ddeintyddol ac optegol a chostau cludiant ar gyfer apwyntiadau ysbyty.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu: “Drwy gydweithio â Policy in Practice byddwn yn nodi’n effeithiol y rhai sy’n gymwys i gael cymorth ariannol, gan gysylltu’n rhagweithiol â thrigolion i roi gwybod iddynt am y gefnogaeth y gallent fod yn ei cholli.

“Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau heb eu hawlio a hefyd yn targedu trigolion ynghylch yr arbedion y gallent eu hawlio – yn y pen draw yn cynyddu incwm yr aelwydydd hynny sydd ar hyn o bryd yn colli allan ar daliadau hanfodol.

“Dim ond y dechrau yw Credyd Pensiwn i ni, mae nifer o ymgyrchoedd wedi’u targedu yn cael eu cynllunio gyda gwasanaethau ehangach, fel Cyngor ar Bopeth Sir Benfro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn ymdrech ar y cyd i wneud y gorau o incwm i gartrefi lleol.”

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynghylch a oes cymorth ychwanegol ar gael i’ch aelwyd, neu i wirio a ydych chi’n hawlio popeth y mae gennych hawl i’w gael, gallwch gysylltu ag Advicelink Cymru ar 0800 702 2020. Fel arall, gallwch ymweld â’u gwefan i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ https://advicelinkcymru.org.uk/cy/ 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cymorth ariannol sydd ar gael, neu os oes angen cefnogaeth arnoch i wneud hawliad, gweler rhywfaint o wybodaeth allweddol isod.

 

Dolenni defnyddiol: