English icon English
County Hall

Cynnig cyfleoedd dydd newydd wedi’i gytuno gan y Cabinet

New day opportunities offer agreed by Cabinet

Cefnogaeth barhaus i bobl sy'n mynychu'r Anchorage, Canolfannau Dydd Lee Davies a Bro Preseli a'u teuluoedd yw'r flaenoriaeth uchaf o hyd wrth gadarnhau ad-drefnu cyfleoedd canolfannau dydd.

Yn y cyfarfod ddydd Iau, ac yn dilyn galwad i mewn a drafodwyd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol, ailadroddodd Aelodau'r Cabinet eu cefnogaeth ar gyfer ad-drefnu darpariaeth cyfleoedd dydd, yn ogystal ag ymrwymiad i'r Awdurdod Lleol weithio mewn partneriaeth i hyrwyddo mentrau cymdeithasol.

Roedd pwyslais cryf na fyddai unrhyw un sy'n mynychu Canolfannau Dydd Anchorage, Lee Davies na Bro Preseli yn cael eu gadael heb ddarpariaeth, gyda chefnogaeth bersonol ar waith i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i gyfleoedd dydd gwahanol.

Roedd ymgynghoriad yn 2019 gyda defnyddwyr gwasanaethau, rhanddeiliaid a phartneriaid wedi ceisio datblygu model newydd ar gyfer Cyfleoedd Dydd yn Sir Benfro ac ers Covid bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n mynychu Canolfannau Dydd.

Nodwyd dull mwy cynaliadwy o gefnogi cyfleoedd dydd i bobl hŷn a phobl ag anableddau ym mhroses gosod cyllideb 24/25 y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn gadael cytundebau lefel gwasanaeth gyda Chanolfan Ddydd Bro Preseli yng Nghrymych a Chanolfan Ddydd Lee Davies yn Arberth ac fel un o nifer o ddewisiadau amgen, byddant yn gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo dewisiadau amgen ar gyfer mentrau cymdeithasol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu cynllun peilot addas a fydd yn gweld cysylltiadau rhwng CSP a'r Trydydd Sector yn cael eu cryfhau ymhellach.

Bydd ad-drefnu Cyfleoedd Dydd yn arwain at gau adeilad Anchorage yn Noc Penfro. Mae amrywiaeth o opsiynau cymunedol amgen ar gael, gan gynnwys Canolfan Ddydd Meadow Park.

Cefnogodd yr Aelodau'r argymhelliad i gau'r Ganolfan Ddydd Anchorage o 1 Tachwedd 2024 a sefydlu modelau menter gymdeithasol yng Nghanolfannau Dydd Lee Davies a Bro Preseli o 1 Ebrill 2025 ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu: "Yn Sir Benfro, rydym am i bobl hŷn a phobl ag anableddau fyw bywyd da, gyda phethau i'w gwneud sy'n darparu pwrpas, cysylltiad a, lle bo'n briodol, dilyniant.

“Rhoddodd y pwyllgor trosolwg a chraffu diweddar gyfle i egluro ymhellach y cyfeiriad rydyn ni’n mynd iddo, wrth i ni ymdrechu i lunio dewis o wahanol gyfleoedd dydd yng nghyd-destun pwysau ariannol sylweddol. Rydym wedi, ac yn parhau i gydbwyso anghenion pobl sy'n mynychu canolfannau dydd a'u teuluoedd gyda'r gofyniad am newid, a byddwn yn parhau i gefnogi pawb yr effeithir arnynt wrth inni fynd drwy'r broses hon.

“Rydym wedi gweithio'n galed i nodi darpariaeth amgen ac addas ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth ac rydym yn falch ein bod, er gwaethaf pwysau ariannol, yn gallu cynnal gwasanaeth bws uniongyrchol o safle Anchorage i Meadowpark.

“Hoffwn bwysleisio na fydd unrhyw un yn cael ei adael heb ddarpariaeth yn dilyn y penderfyniad yma heddiw a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phawb i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bawb."