English icon English
Heritage illustration / Darlun treftadaeth

Cyrsiau Sgiliau Adeiladu Treftadaeth ar gyfer Hwlffordd fel Rhan o Brosiect Calon Sir Benfro i Ailddatblygu Castell

Heritage Building Skills Courses for Haverfordwest as Part of Heart of Pembrokeshire Project to Redevelop Castle

Yr hydref hwn, mae Cyngor Sir Penfro a Chanolfan Tywi yn cyflwyno cyfres o gyfleoedd hyfforddi rhad ac am ddim o gwmpas ac yng nghanol Hwlffordd i bobl ddysgu am sgiliau adeiladu treftadaeth. Mae’r gyfres o weithdai wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o ffocws y Cyngor ar adfywio'r dref sirol.

Mae hon yn fenter unigryw gyda’r nod o arfogi trigolion Sir Benfro â’r sgiliau sydd eu hangen i gadw a dathlu treftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol gyfoethog y rhanbarth a bydd yn cael ei chynnal o fis Hydref i fis Rhagfyr 2024.

Ar gyfer perchnogion tai, mae’r ‘trwsio, cynnal a chadw, ac effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau hŷn’ yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd am wneud y mwyaf o botensial eu heiddo hanesyddol trwy ddysgu sut i ofalu amdano’n gywir. Os yw'ch adeilad yn rhestredig, mae cwrs i'ch arwain drwy'r broses o wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig. I bobl sydd eisiau dysgu mwy o sgiliau ymarferol, mae cyfle i blymio'n ddwfn i grefft ‘gweithio gyda chalch mewn adeiladau’ gan ddefnyddio bwthyn traddodiadol Sir Benfro neu “dŷ unnos", fel astudiaeth achos i archwilio gwendidau adeiladu cyffredin a'u datrys. Yn ganolog i'r cwrs hwn mae deall y gwahanol fathau o galch, ynghyd â'u paratoi, eu taenu a'u hôl-ofal.

Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal gan dîm dawnus o arbenigwyr adeiladu treftadaeth o Ganolfan Tywi ar ran Prosiect Calon Sir Benfro Cyngor Sir Penfro gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth y DU. Dyddiad y sesiwn gyntaf yw 16 Hydref a gellir archebu cyrsiau yn annibynnol ar-lein trwy https://www.eventbrite.com/o/heart-of-pembrokeshire-90032525753.

Mae Canolfan Tywi wedi bod yn darparu hyfforddiant adeiladu treftadaeth ledled Cymru ers 2009. Dros y degawd diwethaf mae Canolfan Tywi wedi meithrin enw da am ddarparu hyfforddiant deniadol o ansawdd uchel gan arbenigwyr sydd â gwybodaeth helaeth yn eu maes adeiladu treftadaeth.

Dywedodd Rowan Matthiessen, rheolwr prosiect cleient ar gyfer prosiect Calon Sir Benfro, “Rydym wrth ein bodd yn cynnig y fenter hon sy’n gyfle unigryw i bobl ddysgu a mireinio sgiliau treftadaeth, gan sicrhau bod hanes a diwylliant Sir Benfro yn cael eu cadw am genedlaethau i ddod.Rydym yn gwahodd pawb i gymryd rhan yn y prosiect trawsnewidiol hwn.”

Mae prosiect Calon Sir Benfro yn ailddatblygu Castell Hwlffordd i fod yn ganolfan ddarganfod brysur ar sail treftadaeth sy'n denu 40,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Fel rhan o'r prosiect mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda thrigolion a sefydliadau lleol i helpu i ddatblygu gweledigaeth, cyfeiriad a chynnwys yr atyniad. Bydd cyfleoedd gwirfoddoli ar gael ynghyd â chyfres o weithdai peilot yn cael eu cynnal trwy gydol 2025 a thu hwnt, felly os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy cysylltwch â heartofpembs@pembrokeshire.gov.uk neu archebwch ar-lein trwy https://www.eventbrite.com/o/heart-of-pembrokeshire-90032525753

Nodiadau i olygyddion

Mae dyddiadau’r sesiynau i gyd fel a ganlyn:

  • Cydsyniad adeilad rhestredig: gwneud cais

Cwrs un diwrnod. 16 Hydref, 9.30am i 4pm, ar-lein

  • Dyfarniad lefel 3 – Atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau traddodiadol (cyn 1919) 

Cwrs dau ddiwrnod. 18 a 19 Tachwedd, 9am i 5pm, Haverhub, Hwlffordd

  • Cynnal a chadw, atgyweirio ac effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau traddodiadol

Cwrs un diwrnod. 4 Rhagfyr, 9.30am i 4pm, Haverhub, Hwlffordd

  • Gweithio gyda chalch mewn adeiladau

Cwrs dau ddiwrnod.

  • Diwrnod 1, 10 Rhagfyr, Maenordy Scolton a bwthyn Penrhos
  • Diwrnod 2, 11 Rhagfyr, Canolfan Tywi, Caerfyrddin

Archebu trwy ddolen Eventbrite:

https://www.eventbrite.com/o/heart-of-pembrokeshire-90032525753