English icon English
Chwaraeon Sir Benfro mewn partneriaeth â VALERO

Darpariaeth aml-chwaraeon yn cael ei chyflwyno gan Chwaraeon Sir Benfro mewn partneriaeth â VALERO

Multisports provision being delivered by Sport Pembrokeshire in partnership with VALERO

Mae Chwaraeon Sir Benfro yn falch iawn o gynnig cyfres o sesiynau aml-chwaraeon wythnosol i blant oed ysgol gynradd. Mae'r dosbarthiadau hyn am ddim i bawb sy'n cymryd rhan ac maent yn cael eu cynnal ar hyn o bryd yng Nghanolfan Hamdden Penfro.

Mae dwy sesiwn ar gael bob dydd Gwener.

Mae sesiwn un yn digwydd rhwng 3pm a 3.45pm ac yn addas ar gyfer holl ddisgyblion blynyddoedd 1-6. Mae'r ail sesiwn yn digwydd rhwng 4pm a 5pm ac yn cynnig darpariaeth ar gyfer merched ym mlynyddoedd 3-6.

Bydd staff o dîm Chwaraeon Sir Benfro yn hyfforddi ac yn cyflwyno amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gweithgareddau corfforol, a fydd yn cynnwys pêl-droed, rygbi, criced, pêl-fasged cadair olwyn a gweithgareddau cynhwysol eraill fel saethyddiaeth a boccia.

Gofynnir i bawb sy'n cymryd rhan am eu mewnbwn ynghylch pa weithgareddau yr hoffent roi cynnig arnynt i sicrhau'r mwynhad mwyaf posibl ym mhob sesiwn.

Bydd Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon Ysgol Harri Tudur hefyd wrth law i gynorthwyo i gyflwyno'r dosbarthiadau hyn.

Mae Chwaraeon Sir Benfro yn hynod ddiolchgar am yr amser y mae'r bobl ifanc hyn yn ei roi i wirfoddoli i helpu plant eraill. Mae llawer o'r bobl ifanc hyn yn mynd ymlaen i fod yn rhan o weithlu cyflogedig y tîm sy'n gweithio mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol ledled y sir.

Mae’r sesiynau wedi cael eu noddi’n hael gan VALERO sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Sir Benfro i roi cyfleoedd newydd i bobl ifanc i’w helpu i wneud y mwyaf o’u potensial ym myd chwaraeon a thu hwnt.

Mae Chwaraeon Sir Benfro hefyd yn cynnig cyfres ychwanegol o sesiynau mewn lleoliadau eraill ar draws y sir.

I gael rhagor o fanylion am y gwasanaethau eraill y mae Chwaraeon Sir Benfro yn eu cynnig ac i gadw lle ar un o’r sesiynau hyn, cysylltwch â Georgia.Osborne-Davies@pembrokeshire.gov.uk