Datblygiad Penfro yn agor cyfleoedd i drigolion De Sir Benfro ag anabledd
Pembroke development opening up opportunities for South Pembrokeshire residents with disabilities
Mae'r Hwb Cei De arfaethedig yn cael ei datblygu gan Raglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro arobryn.
Bydd y cyfleuster yn 7 Northgate Street, Penfro, yn rhoi cyfleoedd newydd a chyffrous i drigolion ag anabledd neu cyflyrau iechyd hirdymor De Sir Benfro ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned, mynediad at wasanaethau a chyfleoedd gwaith.
Bydd y ganolfan yn cynnwys canolfan ddysgu ar gyfer pobl ag anabledd, canolfan ddydd i bobl hŷn, canolfan asesu byw'n annibynnol (y "Fflat") a chanolfan hel atgofion i gefnogi pobl â dementia.
Bydd pwyslais cryf ar gynhwysiant cymunedol gydag oriel ar y llawr gwaelod i grwpiau lleol ei defnyddio i arddangos eu gwaith i'r cyhoedd.
Mae gofod hefyd wedi'i gynnwys i ganiatáu i bartneriaid o sefydliadau gofal cymdeithasol, iechyd a chymunedol gwrdd â phobl mewn lleoliad canolog fel nad oes rhaid i bobl deithio i Hwlffordd bob amser.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i drigolion De Sir Benfro deithio i Hwlffordd bob dydd i dderbyn cefnogaeth ac i rai nid yw hyn yn bosib sy'n golygu eu bod nhw’n colli allan ar y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig. Bydd Hwb Cei’r De yn darparu cymorth lleol wedi'i deilwra i anghenion unigol a bydd yn ehangu ar y gwaith arobryn sydd eisoes wedi'i wneud mewn mannau eraill yn y Sir.
Yn ogystal, mae'r datblygiad hwn yn ymateb uniongyrchol i'r ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Drawsnewid Cyfleoedd Dydd – a bydd yn ein galluogi i ddarparu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â'r gymuned leol ac integreiddio â hi.
Mae hwn yn ddatblygiad ar y cyd rhwng Gwasanaethau Darparwyr y Cyngor a'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth – a bydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl hŷn a phobl ag anabledd yn ystod y dydd a'r nos.
Dywedodd Karen Davies, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Cyflogaeth â Chymorth: "Rydym ni’n gwybod o brofiad dros y 10 mlynedd diwethaf bod y rhaglen yn fuddiol nid yn unig i'w chyfranogwyr uniongyrchol sy’n profi canlyniadau llawer gwell a gwell lles ond maen nhw hefyd o fudd i'r gymuned y mae'n gweithredu ynddi.
"Mae cyfranogwyr y rhaglen a'u gofalwyr yn defnyddio ac yn cefnogi busnesau lleol gan ddarparu cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr a'r incwm. Mae'r rhaglen cyflogaeth â chymorth wedi llwyddo i integreiddio'r bobl mae'n eu cefnogi yn y busnesau hyn gan ddenu ymwelwyr eraill sy'n croesawu'r gefnogaeth a ddangosir."
Cyngor Sir Penfro yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd â statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae datblygiad Hwb Cei’r De yn rhoi cyfle i Benfro ddod yn dref Hyderus o ran Anabledd a fyddai'n creu hwb gwych i'w holl fusnesau.
Bydd y cynllun yn dod â thua £8 miliwn o fuddsoddiad i Benfro. Mae hyn wedi bod yn bosibl trwy'r bartneriaeth gref rhwng adran Adfywio'r cyngor a Gofal Cymdeithasol gyda chyllid gan gyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a chyllid grant gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Rwy'n gyffrous iawn y bydd y rhaglen waith flaenllaw hon yn dod i dde Sir Benfro. Mae'r gwaith a wnaed dros y 10 mlynedd diwethaf yn arwain y ffordd yng Nghymru ac wedi gwneud newidiadau sylweddol i ansawdd bywyd y bobl y mae'n eu cefnogi. Mae gallu ehangu'r cyfle hwn a sicrhau ei fod ar gael yn ne'r sir yn newyddion gwych."
Mae'r prosiect hwn yn gwbl gynhwysol a bydd o fudd i bawb sy'n mynychu'r Angorfa.
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau a'u partneriaid, prosiectau a sut mae'n cefnogi annibyniaeth i'r rhai ag anabledd ar wefan Cyngor Sir Penfro.