Peidiwch ag anghofio hawlenni mynediad cyn i Barth Cerddwyr Dinbych-y-pysgod ddod i rym yn yr haf
Don’t forget access permits ahead of Tenby summer Pedestrianisation
Atgoffir preswylwyr a busnesau o fewn tref gaerog Dinbych-y-pysgod i wneud cais am hawlenni mynediad ar gyfer cynllun Parth Cerddwyr blynyddol Dinbych-y-pysgod.
Eleni, bydd y Parth Cerddwyr ar waith rhwng dydd Llun 3 Gorffennaf a dydd Gwener 8 Medi (11am – 5.30pm bob dydd).
Bydd y cynllun unwaith eto’n rhannu’r dref gaerog yn dri pharth, y bydd pob un ohonynt yn caniatáu mynediad i gerbydau i raddau amrywiol.
Mae manylion llawn a’r ffurflenni cais ar gael ar wefan y Cyngor.
Cwblhewch y broses cyn gynted â phosibl i sicrhau bod digon o amser i brosesu’r cais a chynnal gwiriadau ychwanegol os oes angen.
Mae’n rhaid i geisiadau am hawlenni gael eu cyflwyno ar-lein.
Er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus y cynllun, anogir deiliaid hawlenni i barhau i gynllunio teithiau y tu allan i oriau’r cynllun, sef 11am – 5.30pm, cyn belled ag y bo’n ymarferol.
Anfonwch neges e-bost at Tenby.pedestrian@pembrokeshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.