English icon English
Tenby Harbour - Harbwr Dinbych-y-pysgod cropped

Gwaith Treillio yn Harbwr Dinbych-y-pysgod

Dredging work set for Tenby Harbour

Gofynnir i ddefnyddwyr Harbwr Dinbych-y-pysgod a Thraeth y Gogledd fod yn ymwybodol o beiriannau symud trwm o ddydd Mawrth 26 Mawrth i ddydd Gwener 29 Mawrth wrth i waith treillio gael ei wneud.

Bydd tywod yn cael ei dynnu o aber yr Harbwr a'i ddyddodi ym mhen gogleddol y traeth. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar symudiadau cychod yn yr Harbwr.

Dywedodd Chris Salisbury, Harbwrfeistr Dinbych-y-pysgod, bod trwydded ar gyfer y treillio wedi'i chyhoeddi wedi sawl mis o weithio ar y cais.

“Gofynnwn i'r cyhoedd gadw'n glir o ardal y gwaith a bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn yn ystod y cyfnod hwn," ychwanegodd Chris.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Preswylwyr: "Rwy'n ddiolchgar i'n swyddogion am sicrhau’r drwydded i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen. Mae'r gwaith treillio hwn yn hanfodol ar gyfer gweithredu Harbwr Dinbych-y-pysgod.

“Mae amseriad y gwaith wedi cael ei reoli gan y llanw ac roedd y dyddiadau'n cynrychioli'r cyfle olaf i'r gwaith gael ei wneud cyn i'r cychod gael eu rhoi yn ôl yn y dŵr.”