Dydd Gŵyl Dewi yn plesio canol tref Hwlffordd yn fawr
St David’s Day delights Haverfordwest town centre
Roedd yna wynebau llawen ym mhobman wrth i bron 1,000 o blant ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gan orymdeithio trwy ganol tref Hwlffordd.
Mae'r dathliad Dydd Gŵyl Dewi poblogaidd, a drefnir gan Fforwm Iaith Sir Benfro, gyda nawdd gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a chefnogaeth gan Gyngor Sir Penfro, wedi bod yn tyfu bob blwyddyn.
Bu plant yn gorymdeithio i lawr y Stryd Fawr, ar hyd Stryd y Bont ac yn ôl ar hyd Stryd y Cei dan arweiniad Samba Doc, cyn ymgasglu ar Gaeau Chwarae Picton i ganu a dawnsio.
Cyflwynwyd gwobrau am y ffenestr siop orau wedi'i hysbrydoli gan Gymru a Chymreictod gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Tom Tudor, ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd David Simpson a Siryf Hwlffordd, y Cynghorydd Arthur Brooker.
Dywedodd y Cynghorydd Simpson: "Mae bob amser yn wych gweld Sir Benfro'n dathlu Dydd Gŵyl Dewi ac eleni gwelwyd y nifer uchaf erioed o blant yn cymryd rhan mewn ysgolion lleol. Roedd hi'n fore gwych."
Dywedodd y Cynghorydd Tudor: “Roedd yr Orymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Hwlffordd yn anhygoel ac roedd hi mor braf gweld cynifer o blant o ysgolion gwahanol yn bresennol. Diolch i bawb a drefnodd y digwyddiad anhygoel hwn yn nhref sirol Sir Benfro.”