English icon English
Dynion a merched tîm Gwaith yn yr Arfaeth yn edrych i fyny at y camera uwchben

Grymuso Lles: Bore coffi ysbrydoledig Gwaith yn yr Arfaeth yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl ar y Cynllun Ailddechrau

Empowering Wellbeing: Futureworks' inspiring coffee morning delivers vital support for people on the Restart scheme

Ddydd Gwener, 29 Medi, gosododd Gwaith yn yr Arfaeth y llwyfan ar gyfer bore eithriadol o les ac ymgysylltu, gan weithio mewn partneriaeth â Serco a Maximus i drefnu digwyddiad coffi lles oedd yn hollol drawsnewidiol.

Mae'r Cynllun Ailddechrau, sy'n llusern o obaith i'r rheiny sy'n ceisio goresgyn y rhwystrau a all yn aml rwystro eu taith i'r gweithlu, wrth wraidd y fenter hon. Nid yw pobl sy'n cychwyn ar eu llwybr i gyflogaeth ar eu pennau eu hunain, a gallant gydweithio â darparwyr ymroddedig i dderbyn cymorth pwrpasol wedi'i deilwra i'w hanghenion a'u heriau unigryw.

Trawsnewidiodd Gwaith yn yr Arfaeth yn Hwlffordd yn ganolfan fyrlymus o ysbrydoliaeth, lle daeth cyfranogwyr wyneb yn wyneb ag amrywiaeth deinamig o hyrwyddwyr lles. Yn eu plith roedd Michelle o 'Wellbeing Futures', tywysydd carismatig a arweiniodd weithdai ar gyfathrebu effeithiol, meithrin hunanhyder, lles personol, a pharatoi ar gyfer byd gwaith.

Gwaith yn yr Arfaeth bore coffi

Daeth Sarah o 'An Apple a Day’ â'i hegni heintus i'r digwyddiad, gan gynnig gweithdai iechyd a lles bywiog ac angerddol gyda'r nod o rymuso unigolion i wneud dewisiadau gwybodus a gweithredu offer a thechnegau hygyrch i hybu eu lles a'u hiechyd.

Roedd PACTO (Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro), yn barod i ddarparu atebion arloesol i bobl sy'n mynd i'r afael â rhwystrau cludiant sy'n sefyll yn eu ffordd wrth fynd ar drywydd cyflogaeth. Roedd eu presenoldeb yn dyst i'r rhwydwaith cymorth cynhwysfawr sydd ar gael i gyfranogwyr yn y Cynllun Ailddechrau.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, a ddenodd gyfranogwyr brwdfrydig a gafodd eu harwain gan hyfforddwyr a darparwyr tosturiol, gan ddatgelu'r cyfoeth o gefnogaeth sydd ar gael drwy'r Cynllun Ailddechrau. Wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, cyflwynwyd cyfranogwyr i'r Ap Thrive, sef adnodd digidol amhrisiadwy sy'n ymestyn cymorth lles ac iechyd meddwl ar gyffyrddiad botwm.

Roedd y bore hefyd yn gyfle amhrisiadwy i bartneriaid feithrin cysylltiadau a rhannu arferion gorau. Mae cydweithio, medden nhw, yn allweddol i oresgyn rhwystrau hanfodol i gyflogaeth, ac roedd y digwyddiad hwn yn llwyfan hanfodol ar gyfer rhwydweithio a chyfnewid gwybodaeth.

Mae Gwaith yn yr Arfaeth, ar y cyd â Serco a Maximus, yn ailddatgan ei ymrwymiad i rymuso unigolion a chwalu'r waliau a allai fod wedi sefyll yn eu ffordd. Nid digwyddiad yn unig oedd y bore coffi lles hwn—roedd yn gatalydd ar gyfer trawsnewid, yn symbol o obaith, ac yn dyst i rym cymuned.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: futureworks@pembrokeshire.gov.uk

Gwaith yn yr Arfaeth

Mae Gwaith yn yr Arfaeth, sy'n rhan o wasanaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Penfro, sy'n cael ei yrru gan weledigaeth o rymuso ac adeiladu cymunedol, yn ymrwymedig i feithrin cyfleoedd lles a chyflogaeth unigolion. Trwy bartneriaethau arloesol a mentrau ysbrydoledig fel y Cynllun Ailddechrau, mae Gwaith yn yr Arfaeth yn goleuo'r llwybr at ddyfodol mwy disglair, mwy llewyrchus. Ymunwch â ni ar y daith anhygoel hon o drawsnewid a gobaith.