Grant Gwella Sir Benfro yn helpu i ddod â chymuned at ei gilydd
Enhancing Pembrokeshire grant helps bring community together
Mae prosiect unigryw yn Noc Penfro 'Trechu Unigrwydd' yn dod â'r gymuned leol at ei gilydd gyda chyn-filwyr.
Mae grant Gwella Sir Benfro, sy’n werth £20,000, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, wedi ariannu Mentor Cymheiriaid, sy'n cefnogi llawer o bobl, nid cyn-filwyr yn unig, ar hen safle ysgol Gatholig.
Roedd yr arian hefyd yn caniatáu parhad seibiannau Naafi yn ystod yr wythnos lle gall cyfranogwyr sgwrsio a mwynhau cwmni cyn-filwyr eraill.
Mae ffocws ar gyn-filwyr hŷn sy'n byw yn yr ardal leol, ond mae pob oedran a pherson o bob cefndir bellach yn cymryd rhan.
Mae'r mentor cymheiriaid, Kevin Stanley, sy’n gyn-filwr yn y Llynges Frenhinol, yn cynnig cymorth i gyrchu llwyfannau digidol, gwaith papur, atgyfeiriadau, tai a budd-daliadau yn ogystal â "chlust gyfeillgar."
Yn ogystal â'r cymorth hwn, mae tua 26 o weithgareddau ar gael drwy gydol yr wythnos, sy’n amrywio o wau i sgiliau TG.
Dywedodd Steph Cross, Rheolwr Prosiect VC Gallery, mai'r hyn sy'n unigryw yng nghanolfan Doc Penfro yw pa mor agos y mae trigolion a chyn-filwyr yn cefnogi ei gilydd. "Maen nhw'n uno mor dda," ychwanegodd.
Mae grant tlodi bwyd wedi caniatáu i ginio wythnosol gael ei gynnig, ac mae hyn wedi bod yn cynyddu mewn poblogrwydd, a mynychodd mwy na 450 o bobl y ganolfan yn ystod mis Mai.
Mae gwirfoddolwyr yn paratoi'r cinio ac mae VC Gallery yn gweithio'n agos gyda PAVS i ddod o hyd i bobl sy'n barod i wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau a chinio, gyda thua 4,000 o oriau yn cael eu rhoi ar draws y sefydliad eleni.
Mae'r grant Gwella Sir Benfro yn dosbarthu arian a godir gan y Dreth Ail Gartrefi ar gyfer prosiectau newydd i helpu mynd i'r afael ag effaith negyddol ail gartrefi ac ychwanegu gwerth at gymunedau.
"Mae VC Gallery yn cael ei rhedeg fel canolfan gymunedol, sy’n cefnogi cyn-filwyr a'r gymuned - mae'n brosiect mawr. Mae PATCH a Frame yn defnyddio ystafelloedd yma hefyd. Mae gennym oddeutu 1,000 o ymrwymiadau bob mis, llawer o wahanol bobl ac mae'n debyg na fyddai'r bobl hyn o reidrwydd wedi dod ar draws ei gilydd," ychwanegodd Steph.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Welliant Corfforaethol a Chymunedau, y Cynghorydd Neil Prior: "Gall grantiau Gwella Sir Benfro wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau, gan gefnogi ystod eang o brosiectau a chynlluniau. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweithio yn eu cymunedau i ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael."
Ychwanegodd y Cynghorydd Simon Hancock, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Roedd yn ysbrydoledig gweld y gwaith sy'n cael ei wneud yn Noc Penfro yn VC Gallery. Mae'r gefnogaeth i gyn-filwyr a phreswylwyr yn rhywbeth i fod yn falch ohono."
Mae mwy o wybodaeth am y grant Gwella Sir Benfro a'i bum amcan llesiant ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.. Gallwch gysylltu â'r Tîm Adfywio ar 01437 775536 neu enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk i gofrestru eich prosiect a gwneud cais am ffurflen Mynegi Diddordeb.
Pwysleisiodd Hayley Edwards, Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog, y gwaith hanfodol y mae VC Gallery yn ei wneud i Gyn-filwyr a Chymuned y Lluoedd Arfog.
Ychwanegodd: "VC Gallery yw'r conglfaen ar gyfer cefnogaeth i'n cyn-filwyr yn Sir Benfro. Mae'r gwaith gwych y mae Kevin yn ei wneud fel Mentor Cymheiriaid y Lluoedd Arfog yn hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd a lles Cyn-filwyr."
Ceir mwy o wybodaeth am yr Armed Forces Covenant Fund Trust ar-lein.